Coed y tu Allan i Goedtiroedd

June 2026 | Sylw

Mae map cenedlaethol newydd, wedi ei gynllunio i gefnogi unrhyw un sy’n ymwneud â phlannu neu gynllunio coed yng Nghymru, o grwpiau cymunedol ac elusennau i ffermwyr, coedwigwyr a chyrff cyhoeddus bellach ar gael am ddim trwy borthol data Llywodraeth Cymru.

Gan ddefnyddio’r defnyddio’r delweddau lloeren ddiweddaraf a data o arolwg cenedlaethol LiDAR i nodi coed y tu allan i goetiroedd, mae’r map yn dangos bod y coed hyn yn cynrychioli 30% o’r gorchudd coed cenedlaethol ar hyd a lled Cymru.

Bydd y map yn helpu i nodi lle mae cyfleoedd yn bodoli ar gyfer plannu o’r newydd, adeiladu ar gynlluniau sydd eisoes yn bod, neu nodi lle gellid cysylltu coed unigol â choed a choetiroedd eraill.

Bydd y data a ddarparir yn cefnogi plannu coed wedi’i dargedu, yn gymorth i weld lle mae’r llefydd mwyaf effeithiol i blannu coed newydd, yn ogystal â helpu sefydliadau i gynllunio plannu fydd yn ategu’r canopïau sy’n bodoli eisoes.

Mae pob llain canopi yn y set ddata yn dod i un o bedwar categori:

  • Coed Unigol – canopïau coed unigol.
  • Grwpiau o Goed – clystyrau o goed sy’n ffurfio canopi sy’n cael ei rannu.
  • Coetiroedd Bach – ardaloedd mwy nad ydynt wedi eu cynnwys ar fap coetiroedd y RhGG.
  • Canopi Drosgrog – canopi coed sy’n crogi dros goetir presennol RhGG (y gellir ei ddefnyddio ochr yn ochr â mapiau coetiroedd RhGG).

Mae coed y tu allan i goetiroedd mewn ardaloedd trefol a gwledig yn chwarae rhan hanfodol. Maent yn storio carbon, yn rheoleiddio tymheredd, ac yn lliniaru effeithiau newid hinsawdd, megis llifogydd a gorboethi trefi a dinasoedd.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This