Gydag ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol bellach yn ei anterth, mae tîm Arsyllfa wedi bwrw golwg ar sawl maniffesto gan y prif bleidiau er mwyn gweld yr hyn sydd ganddynt i ddweud ynghylch cefn gwlad a’r economi wledig. Hyd nes yr etholiad byddwn yn rhoi’n sylw i’r holl brif bleidiau sydd ag ymgeiswyr yng Nghymru ac yn astudio beth yn union yw eu cynigion polisi o safbwynt cefn gwlad, amaeth, ynghyd a thlodi, gwasanaethau a’r economi wledig.
Yma, byddwn yn edrych yn gyflym ar rhai o brif bolisïau maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol. Ymysg y cynigion sydd i’w canfod yn y maniffesto mae’r polisïau canlynol:
- Llunio cyfansoddiad ysgrifenedig i’r DU bydd yn ei aildrefnu fel gwladwriaeth ‘ffederal’.
- -Rhoi £50m yn fwy i amaeth yng Nghymru.
- Cynhyrchu £500m yn fwy o gyllid cyfalaf yng Nghymru er mwyn buddsoddi mewn adeiladu ac isadeiledd.
- Buddsoddi mewn insiwleiddio tai gan gynnig pympiau gwres ac insiwleiddio am ddim i’r rheini ar incwm isel.
- Sefydlu Cronfa Meddygfeydd Bychan er mwyn cynnal gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig.
- Cyflwyno Strategaeth Bwyd Cenedlaethol i sicrhau diogelwch bwyd, mynd i’r afael a chostau bwyd cynyddol, rhoi terfyn ar dlodi bwyd a gwella iechyd pobl.
- Rhoi £1 biliwn yn ychwanegol i’r Rhaglenni Rheoli Tir newydd er mwyn cefnogi dulliau amaethu proffidiol, cynaliadwy sy’n helpu natur.
- Cynnal safonau uchel iechyd, amgylcheddol a llesiant anifeiliaid wrth gynhyrchu bwyd. Sicrhau fod yr egwyddor hon yn cael ei warchod mewn unrhyw gytundebau masnach.
- Rhoi’r gallu i ffermwyr Prydain i fasnachu’n haws yn Ewrop drwy gytundebau ynghylch iechyd planhigion ac anifeiliaid.
- Cefnogi ffermwyr i adfer coedwigoedd, mewndiroedd a dyfrffyrdd ac i greu dulliau naturiol o atal llifogydd.
- Buddsoddi mewn isadeiledd gwledig ac arfordirol gan gynnwys lladd-dai fel bod cymunedau yn gallu denu a chadw gweithwyr, yn enwedig pobl ifanc.
- Rhoi mwy o reolaeth i gymunedau ynghylch faint o ail gartrefi sydd yn eu hardal.
Yn amlwg mae nifer o’r cynigion uchod yn rhai sy’n perthyn i feysydd datganoledig ac felly nid yw’r addewidion hyn yn berthnasol i etholwyr yng Nghymru fel y cyfryw. Eto, diddorol bydd gweld beth fydd effaith unrhyw bolisïau y bydd y llywodraeth nesaf yn San Steffan yn ei gael ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu, ac os yw unrhyw gynnydd mewn gwariant mewn meysydd penodol yn caniatáu newidiadau cyfatebol yng Nghymru.
Am fwy o fanylion ynghylch yr hyn y mae maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei gynnig, dilynwch y ddolen hon i ddarllen y maniffesto yn ei gyfanrwydd.