Cipolwg ar gynigion maniffesto Plaid Cymru

Mehefin 2024 | Sylw

green mountains under white clouds during daytime

Gydag ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol bellach yn ei anterth, mae tîm Arsyllfa wedi bwrw golwg ar sawl maniffesto gan y prif bleidiau er mwyn gweld yr hyn sydd ganddynt i ddweud ynghylch cefn gwlad a’r economi wledig. Hyd nes yr etholiad byddwn yn rhoi’n sylw i’r holl brif bleidiau sydd ag ymgeiswyr yng Nghymru ac yn astudio beth yn union yw eu cynigion polisi o safbwynt cefn gwlad, amaeth, ynghyd a thlodi, gwasanaethau a’r economi wledig.

Yma, byddwn yn edrych yn gyflym ar rhai o brif bolisïau maniffesto Plaid Cymru. Ymysg y cynigion sydd i’w canfod yn y maniffesto mae’r polisïau canlynol:

  • Cymru i gael feto ar unrhyw gytundebau masnach rhyngwladol bydd yn cael effaith ar amaethyddiaeth yng Nghymru.
  • Gwrthod y cynnig gan Lywodraeth Cymru i blannu coed ar 10% o dir ffermio Cymru yn orfodol fel rhan o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
  • Mynnu dull mwy hyblyg wrth ystyried y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan alw am ostyngiad yn y camau cyffredinol sydd eu hangen i ffermwyr fod yn rhan o’r cynllun a derbyn taliadau. Symud i ffwrdd o’r model ariannu ‘costau a ddaeth i ran/incwm a hepgorwyd’ sy’n cyfyngu ar y cymhelliant i ffermwyr ymuno a’r cynllun.
  • Newidiadau i labeli bwyd bydd yn meddwl y bydd Cymru yn cael ei nodi fel y man cynhyrchu yn hytrach na Prydain.
  • Cyflwyno ‘agwedd ehangach’ at fynd i’r afael a’r diciâu mewn gwartheg gan gynnwys ceisio rheoli’r clefyd mewn bywyd gwyllt.
  • Cefnogi camau i gryfhau rhwydweithiau monitro clefydau mewn planhigion ac anifeiliaid ar lefel Brydeinig.
  • Rhoi cefnogaeth i gymunedau i gadw gwasanaethau a sefydliadau megis tafarndai a chanolfannau cymunedol.
  • Galw am sefydlu Cwmni Seilwaith Band Eang Cymreig i sicrhau darpariaeth band eang ar draws Cymru gyfan.
  • Pwyso am fwy o fuddsoddiad mewn prosiectau technoleg amgen mewn ardaloedd gwledig ac ‘anodd eu cyrraedd’.
  • Gweithio i greu tîm troseddau gwledig ar gyfer Cymru gyfan.

Mae hyn ond yn gipolwg cyflym o’r hyn sydd i’w ganfod yn y manifesto. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth ynghylch y maniffesto, a darllen y ddogfen yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys edrych ar fersiwn BSL ohono, drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Plaid Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This