Cipolwg ar adroddiad diweddaraf Wavehill ar waith ARFOR

Hydref 2024 | Arfor, Sylw

Trosolwg

Mae’r cwmni ymchwil Wavehill wedi cyhoeddi eu Crynodeb Gweithredol o’u Hadroddiad Cychwynnol a Llinell Sylfaen, rhan allweddol o’u gwaith fel prif gyflenwyr ffrwd Gwerthuso, Monitro, a Dysgu ARFOR 2. Amcan y ffrwd Monitro, Gwerthuso a Dysgu yw cynnal ymchwil sydd yn edrych ar y rhaglen ar wahanol adegau yn oes y prosiect. Nod hyn cofnodi gwaith y rhaglen a chanfod yr hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus ynghyd a gweld beth sydd angen ei wella a’i ddatblygu. Bydd Adroddiad Terfynol yn cael ei gynhyrchu ar ddiwedd cyfnod presennol ARFOR 2 yn 2025 bydd yn edrych ar y rhaglen yn ei grynswth a darparu argymhellion ar gyfer unrhyw barhad o’r prosiect yn y dyfodol.

Y Crynodeb Gweithredol

Mae’r Crynodeb Gweithredol yn gosod y cyd-destun ar gyfer y gwaith Gwerthuso, Monitro a Dysgu, gan amlinellu rhesymeg waelodol y prosiect ynghyd a chrynhoi a chyflwyno data ynghylch ardal ARFOR. Ynghyd a hyn, mae’r Crynodeb Gweithredol yn cyflenwi un o brif amcanion y ffrwd gwaith sef sefydlu fframwaith monitro ar gyfer y rhaglen yn enw gosod meini prawf clir a diamwys y gellid mesur cynnydd ffrydiau gwaith eraill ARFOR yn eu herbyn. Mae yna dair prif elfen i’r fframwaith gwerthuso:

  1. Asesiad o ddyluniad y rhaglen a chydweddiad strategol
  2. Dadansoddiad o berfformiad y rhaglen
  3. Asesiad o effaith y rhaglen a gwerth am arian.

Canfyddiadau cynnar a geir yn y Crynodeb Gweithredol, ac mae’r argymhellion yn canolbwyntio yn benodol ar y cyntaf o’r pwyntiau uchod, sef dyluniad a strategaeth y rhaglen. Mae’r argymhellion hyn yn dilyn cyfweliadau gyda’r swyddogion sydd yn gweinyddu ARFOR 2, rhanddeiliaid sydd ynghlwm wrth y prosiect a’r maes yn fwy cyffredinol, adolygiad o’r ddogfennaeth craidd sy’n sail i’r rhaglen ynghyd ac ymchwil ehangach yn edrych ar y patrymau mudo yn y rhanbarth. Ceir hefyd dadansoddiad ystadegol o broffil demograffeg y rhanbarth, dadansoddiad cryno o sylfeini economaidd ardaloedd ARFOR ynghyd a thrafodaeth o ymchwil ynghylch agweddau pobl ifanc tuag at yr ardal.

Theori Newid

Ar gyfer yr adroddiad mae Wavehill wedi mabwysiadu dull ‘theori newid’ sydd yn rhannu gweithgarwch y prosiect i’w brif adrannau ac yn edrych ar ddull ac effaith pob un cymal o’r rhaglen yn unigol. Drwy edrych ar bob un o 5 ffrwd gwaith ARFOR yn unigol ac amlinellu eu gweithgareddau a’r gadwyn achosol rhwng rhain ac allbynnau’r prosiect, eu canlyniadau tymor canolig a hir dymor ac effeithiau terfynol y gweithgarwch mae modd i dîm Wavehill greu darlun cyflawn o draweffaith y prosiect. Amcan hyn yw deall yn well yr hyn y mae’r prosiect yn ei gyflawni a darparu mewnwelediadau gwerthfawr ynghylch unrhyw newidiadau sydd eu hangen er mwyn sicrhau llwyddiant pellach mewn modd cyson a rheolaidd.

Canfyddiadau

Er mai adroddiad cychwynnol yw hwn yn unig, mae Wavehill yn cynnig rhai canfyddiadau cynnar ac argymhellion i swyddogion ARFOR fel rhan o’r adroddiad. Mae rhain yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

  • Dywedir fod sail rhesymegol y rhaglen yn un cadarn ac fod yna beth dystiolaeth eilaidd academaidd sydd yn cefnogi dilysrwydd cymhelliant gwaelodol y rhaglen.
  • Nodir fod ystod o ffactorau tu hwnt i ffactorau economaidd yn gyrru allfudo ymysg yr ifanc i ardaloedd tu hwnt i ranbarth ARFOR a bod angen eu hystyried.
  • Dadleuir fod gwerth hanfodol i ffocws deuol rhaglen ARFOR ar yr economi a’r iaith a’r gydberthynas rhyngddynt ac fod hyn yn llenwi bwlch ym maes polisi presennol Cymru.
  • Nodir natur gydweithredol y rhaglen, ac ymdrechion i osgoi dyblygu gwaith drwy weithio agos rhwng sefydliadau.
  • Gelwir i fireinio rhai agweddau o’r cynllun presennol, megis yr hyn sydd yn diffinio ‘gofodau Cymraeg’, dulliau o dargedu busnesau a sectorau penodol mewn modd strategol a goblygiadau rhesymeg y cynllun ar y Cymry Cymraeg rheini sydd wedi eu geni a’u magu y tu hwnt i ffiniau’r rhanbarth ond sydd a diddordeb symud i fyw yn ardal ARFOR.

Yn sicr mae’r Crynodeb Gweithredol yn gipolwg diddorol ar y gwaith sydd ar y gweill i fesur a deall union effaith a chyfeiriad Rhaglen ARFOR 2 wrth i’r gwaith barhau ac esblygu ymlaen i mewn i 2025.

Gallwch ddysgu mwy am waith Wavehill a darllen y Grynodeb Gweithredol drwy ddilyn y ddolen hon: Crynodeb Gweithredol Adroddiad Cychwynnol ARFOR

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This