Mae chwe grŵp cymunedol ar draws Cymru wledig wedi derbyn cefnogaeth drwy Gronfa Ymchwil dan Arweiniad y Gymuned Gyda’n Gilydd dros Newid (Together for Change), a ariennir gan Cymru Wledig LPIP Rural Wales. Bydd pob prosiect yn derbyn hyd at £20,000 a chefnogaeth academaidd i gynnal ymchwil a gynlluniwyd yn lleol ar economïau adfywiol, hinsawdd, diwylliant a lles.
Bydd y prosiectau’n rhedeg tan haf 2026 ac yn cyfrannu at dystiolaeth newydd, mewnwelediad a gweithredu dan arweiniad y gymuned ar draws Cymru wledig. I ddarganfod mwy, ewch i wefan Gyda’n Gilydd dros Newid.

