Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC neu WCVA yn Saesneg) wedi lansio dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru wedi cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, UK Research and Consultancy Services ac amrywiaeth o rhanddeiliaid. Bwriad y ddogfen yw diweddaru ac ehangu polisi gwirfoddoli presennol er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd a’r ymchwil diweddaraf ac yn dysgu o’r arferion gorau o Gymru ac ar draws y byd.
Mewn datganiad dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS:
‘Rydw i eisiau adeiladu dull gweithredol a phenderfynol o gyflwyno’r cyflyrau a’r cymorth y mae gwirfoddolwyr eu hangen ac yn eu haeddu, fel y gallant dyfu a ffynnu yn y gwaith hanfodol y maen nhw’n ei wneud i bawb yng Nghymru, ei phobl, ei lleoedd a’i chymunedau.’
Bydd y Grŵp Arwain Traws-sector ar Wirfoddoli, sydd wedi bod yn arwain y gwaith, yn datblygu Cynllun Gweithredu er mwyn cefnogi’r gwaith o fabwysiadu’r dull newydd ar draws Cymru. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect drwy ddilyn y ddolen hon i wefan y WCVA.

