Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog grwpiau cymunedol, eglwysi a chapeli, mudiadau gwirfoddol a dielw sy’n dymuno gwella ac ehangu’r ystod o gyfleusterau, gweithgareddau a chyfleoedd ar draws y sir i wneud cais i Gronfa Grant Cymunedol Ceredigion.
Gellir defnyddio’r grantiau ar gyfer:
- Prynu a datblygu tir
- Prynu adeiladau
- Prynu offer
- Uwchraddio cyfleusterau presennol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, 21 Ionawr 2026
Meini Prawf a Chymhwysedd:
Rhaid i bob cais ddangos bod y prosiect arfaethedig yn bodloni o leiaf un o’r amcanion yn y Strategaeth Gorfforaethol 2022–2027.
Pecynnau ymgeisio a gwybodaeth bellach ar gael yma.

