Ddoe (23 Hydref 2024) yn adeilad y Pierhead, fe lansiwyd papur strategaeth a gomisiynwyd gan Cefin Campbell AS. Mae ‘Tuag at strategaeth i fynd i’r afael â thlodi gwledig yng Nghymru’ yn amlinelliad o’r heriau y mae cefn gwlad Cymru yn ei wynebu, gan ddarparu cynigion polisi ar gyfer mynd i’r afael a’r sefyllfa.
Fel rhan o’r digwyddiad, yn ymuno a Cefin Campbell ar y panel oedd Sam Kurtz AS, Bethan Webber o Cwmpas a Mared Rand Jones o Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru i drafod tlodi cefn gwlad ac i rannu rhai o’u hymatebion hwythau i gynnwys yr adroddiad. Cafwyd trafodaeth gynhwysfawr a diddorol lle amlinellodd pob aelod o’r panel eu blaenoriaethau hwythau wrth ystyried y Gymru wledig, gyda phob un yn pwysleisio gwahanol agweddau oedd angen sylw arnynt.
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar feysydd polisi penodol y gall Llywodraeth Cymru ddylanwadu arnynt megis trafnidiaeth, tai, ynni, gofal plant, ynghyd ag elfennau digidol, busnes, cyflogaeth a’r economi wledig. Mae modd darllen y strategaeth yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon: https://issuu.com/cefincampbell/docs/cymraeg_1_