Cefin Campbell AS i gynnal digwyddiad yn edrych ar dlodi gwledig yng Nghymru

Medi 2024 | Sylw

Mae’r Aelod o’r Senedd Cefin Campbell wedi cyhoeddi ei fod yn cynnal digwyddiad arbennig fydd yn trafod sut i fynd i’r afael a thlodi gwledig yng Nghymru. Bwriad y sesiwn yw archwilio rhai o’r heriau strwythurol sy’n wynebu cymunedau gwledig yng Nghymru a’r ffactorau amrywiol sydd yn gyrru tlodi yn yr ardaloedd hyn. Mae’r argyfwng costau byw yn golygu fod nifer o’r problemau hir dymor sydd i’w canfod yng nghefn gwlad yn gwaethygu gyda thrigolion y cymunedau hyn yn wynebu dyfodol ansicr. Yn aml mae gwelededd yn parhau i fod yn her wrth feithrin cyhoeddusrwydd a datrysiadau i’r problemau hyn a’r gobaith yw y bydd y digwyddiad hwn yn mynd gam yn nes i ennyn trafodaeth ystyrlon am ddyfodol ein cymunedau gwledig.

Y rheini bydd yn ymuno gyda Cefin Campbell i gymryd rhan yn y digwyddiad bydd:

Mared Rand Jones, Prif Weithredwr, Ffermwyr Ifanc Cymru

Sam Kurtz, Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfor, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol ar Dwf Gwledig

Bethan Webber, Prif Weithredwr, Cwmpas

Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, Arweinydd Plaid Cymru

Bydd ‘Mynd i’r afael â Thlodi Gwledig: Strategaeth Datblygu Gwledig i Gymru’ yn cael ei gynnal yn y Pierhead ym Mae Caerdydd rhwng 11yb a 12yh ar 23 Hydref. Mae modd archebu tocyn rhad ac am ddim i’r digwyddiad drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This