Covid-19 a Brexit – y ‘storm berffaith’ ar gyfer y sector bwyd
O’r pridd i’r plât
Mae sut mae Cymru yn cynhyrchu ac yn gwerthu ei chynnyrch bwyd a diod yn hollbwysig i fuddiannau economaidd y genedl gyfan. Bydd datblygu cadwyni cyflenwi cynaliadwy, yn ogystal â chysylltiadau rhyngwladol da, yn chwarae rhan hollbwysig o ran sicrhau y gellir manteisio ar gyfleoedd a lliniaru’r bygythiadau.