Mae cyfrol newydd o straeon byrion i bobl ifanc o’r enw Fesul Darn wedi dod ag awduron sy’n gysylltiedig ag ardal ARFOR ynghyd i roi golwg newydd ar fywyd a gwaith yn yr ardal. Mae’r gyfrol wedi ei chyhoeddi gan wasg Atebol, ac wedi ei greu fel rhan o waith Llwyddo’n Lleol 2050 ar brosiect ARFOR gyda’r nod o ysbrydoli pobl ifanc ac arddangos y talent a chreadigrwydd sydd i’w ganfod yn ardaloedd ARFOR.
Mae’r gyfrol yn cynnwys cyfraniadau gan Heiddwen Tomos, Alaw Fflur Jones, Sioned Bowen, Gareth Evans-Jones, Manon Steffan Ros, Andrew Teilo, Lleucu Non a Morfudd Owen. Mae’r straeon yn archwilio themâu megis hunaniaeth, perthyn, dyheadau gyrfaol a’r heriau a wynebir o fyw yng nghefn gwlad Cymru yn yr oes sydd ohoni.
Mewn datganiad, dywedodd yr awdur Sioned Bowen o Lanfihangel-ar-Arth yng Nghaerfyrddin bod Fesul Darn yn gyfle unigryw i leisiau newydd gael eu clywed:
“Mae’n hollol wych bod cyfleoedd fel hyn ar gael i awduron ifanc. Roedd gallu ysgrifennu am brofiadau sy’n berthnasol i mi a fy nghymuned yn fraint, ac mae’n gwneud i mi deimlo fy mod yn rhan o rywbeth mwy. Mae’n bwysig i bobl ifanc weld eu bywydau eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn llenyddiaeth — bod eu profiadau a’u dyheadau yn ddilys ac yn bwysig. Gobeithio y bydd y gyfrol hon yn dangos i eraill bod modd llwyddo heb adael eu cymuned.”
Dywedodd Lleucu Non sy’n dod o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd, ac sy’n un o’r awduron sy’n cael ei cynnwys yn y gyfrol:
“Mae’r gyfrol yma’n brawf bod straeon newydd, cyffrous yn cael eu hadrodd yn Gymraeg, a’i bod hi’n bosib gwneud hynny o’n cymunedau ein hunain. Mae’n dangos bod lle i lenorion ifanc ffynnu heb orfod gadael bro eu mebyd.”
Mae ysgolion yn ardaloedd ARFOR wedi derbyn copïau o Fesul Darn, ynghyd a phecyn addysgiadol sy’n cynnig gweithgareddau i gyd-fynd a’r gyfrol. Mae copïau caled hefyd wedi eu dosbarthu i lyfrgelloedd ar draws siroedd ARFOR. Mae modd cael gafael ar e-lyfr o’r gyfrol yn rhad ac am ddim drwy ddilyn y ddolen hon, ac mae hefyd modd cael gafael ar lyfr sain drwy ddilyn y ddolen hon.

