Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi cynhadledd yn edrych ar wahanol agweddau o fethodolegau ymchwil wrth astudio ieithoedd lleiafrifol a ranbarthol. Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal dros ddau ddiwrnod ar 9 – 10 Gorffennaf 2024 ar gampws y Brifysgol. Mae’r gynhadledd yn un sydd wedi ei drefnu ar y cyd gyda Rhwydwaith Iaith Canolfan Ymchwil WISERD, ac UniNet sef rhwydwaith prifysgolion NPLD (Network to Promote Linguistic Diversity).
Bwriad y gynhadledd yw trafod arferion gorau methodolegau ymchwil wrth edrych ar bolisi a chynllunio iaith mewn cyd-destun rhanbarthol neu leiafrifol ar adeg lle mae nifer o’r ieithoedd hyn yn wynebu heriau difrifol a bygythiadau dirfodol i’w bodolaeth. Bydd yna ganolbwyntio penodol ar ddulliau ymarferol o gynllunio, gweithredu a dysgu wrth lunio polisi a pha heriau sy’n codi wrth wneud hyn. Mae’n sicr o fod yn gynhadledd ddiddorol i unrhyw un sydd yn gweithio neu’n diddori ym meysydd cynllunio neu bolisi iaith.
Mae modd canfod rhestr o’r siaradwyr sydd wedi cadarnhau eu presenoldeb yn barod, ynghyd a gwybodaeth archebu tocynnau a gwybodaeth amserlen drwy ddilyn y ddolen hon.