Mae Canllaw gweithredu tai Gwledig Cymru (Llywodraeth Cymru, Rhagfyr 2025) yn ddogfen cyngor ymarferol wedi’i lunio ar gyfer unigolion proffesiynol yn y sector dai, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill sy’n gweithio i ddarparu tai fforddiadwy yng nghefn gwlad Cymru. Cyhoeddwyd y ddogfen fel rhan o ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch cyflenwad tai a’r bwriad yw cefnogi awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, datblygwyr, cynllunwyr a phartneriaid cymunedol i lywio’i ffordd drwy heriau penodol cyflenwad tai lleol.
Beth sy’n cael ei gynnwys yn y canllaw
Mae’r canllaw yn darparu offer ymarferol sy’n darparu help cam wrth gam a mewnwelediadau ar elfennau allweddol o ddarpariaeth tai fforddiadwy:
- Cyd-destun polisi a chynllunio: trosolwg o bolisïau Cymreig perthnasol, fframweithiau cynllunio ac ystyriaethau rheoleiddio sy’n dylanwadu ar dai gwledig.
- Adnabod anghenion cartref: sut i asesu gofynion tai lleol, gan gynnwys asesiadau anghenion wedi’u teilwra ar gyfer cymunedau gwledig.
- Adnabod a chaffael safleoedd: dulliau i ganfod a sicrhau tir addas mewn ardaloedd gwledig.
- Cyllid ac economeg: cynllunio ariannol, rhaglenni grant ac ystyriaethau economaidd ar gyfer rhaglenni tai fforddiadwy.
- Dylunio, adeiladwaith a safon: cyngor ar safonau dylunio, dulliau adeiladu a gofynion safon sy’n berthnasol i gyd-destunau gwledig.
- Ymgysylltu rhanddeiliaid a chydweithio: offer er mwyn cydweithio yn effeithiol gyda cymunedau lleol, hwyluswyr tai, perchnogion ti, cyrff statudol ac eraill.
- Astudiaethau achos: enghreifftiau o brosiectau tai llwyddiannus o ar draws Cymru, sy’n dangos dulliau cyflenwi gwahanol a gwersi ymarferol.
Mae’r canllaw hyn hefyd yn cynnwys rhestrau gwirio a deunydd cyfeirio at helpu defnyddwyr wneud y mwyaf o’r awgrymiadau yn ystod datblygu a gwireddu prosiect.
I bwy mae’r canllaw?
Mae’r ddogfen wedi’i ddylunio i gael ei ddefnyddio gan:
- Gweithwyr proffesiynol a chynllunwyr yn y sector dai sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig
- Grwpiau cymunedol a hwyluswyr tai gwledig sy’n arwain neu’n cefnogi prosiectau tai lleol
- Awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol sydd wedi’u cofrestru sy’n edrych am eglurdeb ar ddarparu tai gwledig
- Partneriaid sy’n cymryd rhan mewn modelau cydweithredol, gan gynnwys tai dan arweiniad y gymuned a dulliau darparu tai fforddiadwy arloesol.
Darllenwch neu lawrlwythwch y Canllaw Gweithredu Tai Gwledig Cymru:

