Ynghyd a’r cystadlu a’r perfformio mae’r Eisteddfod yn safle ar gyfer sgyrsiau o bob math am gyflwr a dyfodol Cymru bob blwyddyn. Fel yr arfer, mae yna ystod eang o sesiynau trafod, seminarau a darlithoedd wedi’u trefnu i’r rheini fydd ar y maes, ac mae tîm Arsyllfa wedi crynhoi’r rhai yr ydym ni’n credu i’r rheini sydd â diddordeb ym meysydd polisi sy’n effeithio ar gefn gwlad Cymru. Dyma grynodeb felly o’r digwyddiadau gorau i gael mynd i wrando, trafod a myfyrio ar syniadau polisi yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Dydd Sadwrn 5 Awst
Pwnc trafod mawr yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd eleni oedd dyfodol cynhyrchu bwyd yng Nghymru, a pharhau y mae’r trafod ynghylch y ffyrdd gorau i fyd amaeth ymateb i heriau newid hinsawdd. Mae yna dair sesiwn ar gynhyrchu bwyd yn y babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar brynhawn dydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod. Yn gyntaf am 2yh mae darlith ddyddiol Prifysgol Bangor yn dwyn y teitl ‘Bwydo’r Dyfodol: Arloesi mewn Cynhyrchu Bwyd’. Yn syth wedyn am 2:45yh mae ‘Y Ddadl Fawr: Diogelwch Bwyd’ bydd yn trafod sut mae mynd ati i sicrhau digonedd o fwyd iach a maethlon mewn dull amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy yng Nghymru. Yn dilyn hyn am 3:30yh mae yna drafodaeth rhwng y ddau Gareth Wyn Jones, y ffarmwr enwog a’r Athro Emeritws bydd yn trafod amaethu a’r amgylchedd mewn sgwrs o dan y teitl ‘Be Nesa? Amaeth, y Gadwyn Fwyd a Nwyon Tŷ Gwydr’. Mae hon yn siŵr o fod yn drafodaeth fywiog a diddorol.
Ym mhabell Cymdeithasau 2 am 2:30yh mae yna drafodaeth ‘Sicrhau Cymunedau Ffyniannus: Gyda’n Gilydd’ wedi ei drefnu gan Gymdeithas Tai Adra er mwyn archwilio’r hyn sydd ar waith i greu cymunedau ffyniannus a llewyrchus, a sut gall sefydliadau weithio ynghyd i sicrhau hyn.
Dydd Sul 6 Awst
Am 5:15yh ar brynhawn dydd Sul yn y babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg bydd Hywel Griffith, cogydd seren Michelin Beach House a chynrychiolydd o Hybu Cig Cymru yn trafod manteision defnyddio cynnyrch lleol wrth goginio.
Dydd Llun 7 Awst
Am 11yb ym mhabell Cymdeithasau 1 bydd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffydd Jones yn arwain sesiwn o’r enw ‘Hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle a’r Gymuned’ ynghyd ag amryw o gynrychiolwyr cyrff cyhoeddus.
Hefyd yn Cymdeithasau 1 am 1yh bydd Plaid Cymru yn cynnal sesiwn ‘Tai, iaith, gwaith – beth fydd dyfodol cymunedau Cymru?’.
Yn dechrau am 2yh mae yna ddwy sesiwn yn trafod dyfodol cynhyrchu ynni yng Nghymru yn y babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Am 2yh mae darlith ddyddiol Prifysgol Bangor o dan deitl ‘Pŵeru Cynnydd: Arloesedd Ynni Carbon Isel yng ngogledd Cymru. Yn syth wedyn am 2:45yh mae yna drafodaeth ‘Y Ddadl Fawr: Dyfodol Egni Cymru’ lle bydd panelwyr yn mynd i’r afael a’r mater o’r dulliau gorau o gynhyrchu egni yng Nghymru.
Am 3yh yn Cymdeithasau 1 bydd Llŷr Gwyn Lewis a Siân Melangell Dafydd yn trafod mewn sesiwn o’r enw ‘Ysgrifennu’r Hinsawdd’ fel rhan o brosiect cyfnewid a gŵyl Metropolis Bleu yn Quebec.
Dydd Mawrth 8 Awst
Am 2yh bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal sgwrs banel yr Academi Addysg Genedlaethol ar stondin y Coleg. Bydd y panelwyr yn cynnwys Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffydd Jones, Dr Andrew Davies o Brifysgol Aberystwyth, Garem Jackson sef Cyfarwyddwr Addysg Gwynedd a Trefor Jones, pennaeth Ysgol Brynhyfryd.
Hefyd am 3yh ym mhabell Cymdeithasau 1 mae Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiwn ‘Dyfodol ein cymunedau Cymraeg’. Bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles, Dr. Simon Brooks ac Elin Haf Gruffydd Jones yn trafod sut y gallwn warchod ein cymunedau Cymraeg gyda golwg at sut allwn sicrhau eu bod yn llewyrchus yn y dyfodol.
Am 3:30yh ym mhabell Cymdeithasau 2 bydd Y Ganolfan Cynllunio Iaith a Phrifysgol Abertawe yn cynnal sesiwn yn trafod ‘Ffoaduriaid ac Addysg Gymraeg: Llwybrau at yr iaith i deuluoedd’ a sut i wella mynediad at addysg Gymraeg i ffoaduriaid ac ymgeiswyr lloches.
Dydd Mercher 9 Awst
Bydd dydd Mercher yn gweld lansiad rhaglen ARFOR yng nghwmni nifer o’r arweinwyr sydd wedi bod wrthi yn llunio’r Cynllun uchelgeisiol a mentrus hwn. Yn dechrau am 11:30yb bydd y digwyddiad yn gweld anerchiad gan Weinidog yr Economi Vaughan Gething, ac yn clywed gan arweinwyr o awdurdodau lleol a gweinyddwyr rhaglen ARFOR ynghylch pynciau megis lansiad diweddar eu Cronfa Her.
Dydd Iau 10 Awst
Rhwng 11 a 12yb ar stondin Prifysgol Aberystwyth mi fydd Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth yn cynnal sesiwn ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a phrosiect Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth (CUPHAT) o’r enw ‘Hyfywedd Cymunedau Cymraeg a Thwristiaeth’. Ar y panel fydd Meleri Davies o Antur Ogwen, Yr Athro Rhys Jones o Brosiect CUPHAT, Dr Einir Young o Ecoamgueddfa Llŷn a fydd y sesiwn yn cael ei gadeirio gan Jacob Ellis o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Ar ddydd Iau am 2yh bydd Jeremy Miles yn traddodi darlith o’r enw ‘Y Gymraeg, Addysg a’r Dyfodol’ ym mhabell Cymdeithasau 1.
Am 3:30yh bydd TUC Cymru yn cynnal sesiwn yn dwyn y teitl ‘Cydraddoldeb: Gwaith teg, hawliau’r Gymraeg yn y gweithle a’n cymunedau Cymraeg’ ar sut y gellid cydweithio i hyrwyddo hawliau ieithyddol yn y gweithle.
Dydd Gwener 11 Awst
Am 11yb bydd Cymdeithas Cledwyn yn cynnal trafodaeth ym mhabell Cymdeithasau 1 am Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng nghwmni Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, a Dyfed Edwards, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd.
Rhwng 12yh ac 1yh ym mhabell Cymdeithasau 1 bydd Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru Prifysgol Aberystwyth yn cynnal trafodaeth banel ‘Cenedlaetholdeb y Tlawd’. Mae’r panel yn cynnwys Dr Catrin Wyn Edwards, Dr Anwen Elias, Dr Rhys ap Gwilym a Sam Parry dan gadeiryddiaeth Dr Huw Lewis.
Hefyd gan Ganolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ac wedi’i threfnu ar y cyd gyda’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yw sgwrs rhwng Laura McAllister a Dr Anwen Elias ynghylch dyfodol y cyfansoddiad rhwng 1:30 a 2:30yh ar stondin Prifysgol Aberystwyth.
Am 3:30yh ar brynhawn Gwener mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal sesiwn ‘Deddf Addysg Gymraeg i bwy?’ bydd yn trafod y ddeddf fuan i’w chyflwyno a’r hyn sydd angen iddo gyflawni i sicrhau addysg Gymraeg i bawb yng Nghymru.
Dydd Sadwrn 12 Awst
Am 1yh yn Cymdeithasau 1 bydd Ynni Cymunedol Cymru yn cynnal sesiwn ar ‘Ddyfodol Ynni yng Nghefn Gwlad Cymru’ wrth edrych ar awgrymiadau ‘Strategaeth Llŷn’ y diweddar Dr. Carl Clowes. Bydd Dyfan Lewis o Ynni Cymunedol Cymru, Llŷr ap Rhisiart o Antur Aelhaearn a Wil Parry o Ynni Llŷn yn trafod perthnasedd syniadau Dr. Clowes heddiw a beth y gallwn ddysgu ohonynt wrth edrych tuag at ddyfodol cynhyrchu ynni yng Nghymru.
Am 1:30yh yn Cymdeithasau 2 bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal trafodaeth o’r enw ‘Cyfraniad Amaeth i’r Trethdalwyr’ dan gadeiryddiaeth John A. Hughes. Ar y panel bydd Carwyn Jones, Mabon ap Gwynfor a Glyn Roberts.
A dyna ni, ein crynodeb o’r hyn i edrych mas amdano ar y maes. Mwynhewch yr Eisteddfod!