Mae Cadw wedi cyhoeddi fod 10,000 o docynnau rhad ac am ddim ar gael ar gyfer eu safleoedd treftadaeth ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae modd i unrhyw un wneud cais am y tocynnau sy’n cynnwys cestyll, eglwysi a hen safleoedd diwydiannol, gyda 17 safle hanesyddol yn cymryd rhan o’r cynnig.
Yn y cyhoeddiad, dywedodd Cadw wrth ymwelwyr ystyried wneud cyfraniad gwirfoddol i Ambiwlans Awyr Cymru yn hytrach na thalu. Mae manylion ar sut i wneud cyfraniad i’w canfod yma.
Er mwyn cael mynediad rhad ac am ddim i’r safleoedd, mae angen i ymwelwyr archebu eu tocynnau ar lein. Anogir y rheini sydd am ymweld â Plas Mawr neu Castell Coch i archebu eu tocynnau mor fuan â phosib, gan fod cyfyngiad ar y niferoedd o docynnau sydd ar gael ar gyfer y safleoedd hyn.
Mewn datganiad dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan:
“Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle mor bwysig i ddathlu popeth sy’n gwneud Cymru’n genedl arbennig gyda’n hunaniaeth a’n diwylliant unigryw.
Ochr yn ochr â’n cronfa gwerth £1 miliwn ar gyfer digwyddiadau a dathliadau cymunedol Dydd Gŵyl Dewi ledled Cymru eleni, mae’n wych bod pobl yn cael y cyfle i ymweld â rhai o’n lleoedd hanesyddol anhygoel ar 1 Mawrth.
Mae ymweld â safle Cadw yn ffordd wych o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a dysgu mwy am hanes anhygoel Cymru.”
Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant:
“Rydw i mor falch y bydd Cadw, unwaith eto, yn rhoi tocynnau mynediad am ddim ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Mae ymweld ag un o’r lleoedd arbennig hyn sy’n llawn hanes yn ffordd wych o ddathlu’r hyn sy’n gwneud Cymru yn unigryw. Byddwn i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i archebu eu tocynnau cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi colli allan.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd ymwelwyr hefyd yn cefnogi’r elusen rydyn ni wedi’i dewis, Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n gwneud gwaith anhygoel ledled y wlad.”
Dywedodd Abi Pearce, Rheolwr Partneriaeth Corfforaethol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer De Cymru:
“Gall pobl fwynhau ymweld â rhai o safleoedd hanesyddol mwyaf eiconig Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, gan wybod eu bod yn helpu i achub bywydau! Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar y bydd pob ymwelydd â safleoedd Cadw yn cael mynediad am ddim ac rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n cyfrannu at ein gwasanaeth achub bywydau.
Ers ein lansio yn 2001, rydyn ni wedi gwneud dros 55,000 o deithiau. Ni allen ni fod wedi gwneud hynny heb gefnogaeth pobl Cymru, a byddwn bob amser yno iddyn nhw, ble bynnag, a phryd bynnag, y bydd ein hangen arnyn nhw.”
Am fwy o wybodaeth, ac i gael manylion ynghylch sut i wneud cais am docynnau, dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.

