Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio i gefnogi adroddiad sydd am weld gorfodi perchnogion ail gartrefi a llety gwyliau i geisio caniatâd cynllunio ar eu cyfer.
Mae’r bleidlais yn dod ar ôl newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru alluogi Cynghorau Sir i ddefnyddio deddfwriaeth cynllunio i newid sut y mae ail gartrefi a llety gwyliau sy’n cael eu gosod yn cael eu trin. Cyflwynodd y newidiadau i’r drefn cynllunio, a adnabyddir fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, dri chategori newydd ar gyfer tai: prif gartref, ail gartref a llety gwyliau sy’n cael eu gosod. Cyngor Gwynedd yw’r cyntaf o’r awdurdodau lleol i ddefnyddio’r pwerau newydd hyn i geisio rheoli’r nifer o ail gartrefi a llety gwyliau yn eu hardal. Mae hyn yn dod wedi i’r Cyngor ddewis cynyddu treth cyngor ar gyfer ail gartrefi i 150% yn fwy na chyfradd treth cyngor tai arferol.
Bydd Cyngor Gwynedd nawr yn cynnal arolwg cyhoeddus i ganfod barn trigolion y sir ynghylch y cynlluniau. Mae modd darllen adroddiad llawn y Cyngor yma.