Blog Gwadd: Dylanwad y Gymraeg ar benderfyniadau mudo ei siaradwyr

Gorffennaf 2024 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

Mae Elen Bonner yn Ymchwilydd Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Dyma ei hail flog gwadd i Arsyllfa, i ddarllen yr un cyntaf cliciwch yma.

Mae allfudo siaradwyr Cymraeg o gadarnleoedd yr iaith yn her i’r sawl sy’n ymdrechi i adfywio’r iaith yn yr ardaloedd hyn. Yn wir, un o nodau strategol cynllun Arfor, sef rhaglen dan nawdd Llywodraeth Cymru i gefnogi’r economi yng nghadarnleoedd y Gymraeg, yw denu pobl a theuluoedd ifanc i aros neu dychwelyd i’w cymunedau cynhenid. O ganlyniad, gellid dadlau bod deall penderfyniadau mudo siaradwyr Cymraeg yn holl bwysig i ymdrechion adfywio ieithyddol. Mae papur diweddar gan Bonner et al. (2024), sy’n seiliedig ar fy ngwaith PhD, yn cyflwyno teipoleg o benderfyniadau mudo siaradwyr Cymraeg o’r ardaloedd hyn. Mae’r blog hwn yn trafod rhai canfyddiadau allweddol a goblygiadau’r ymchwil.

Mae’r ystadegau diweddar yn dangos bod y Gymraeg dan bwysau yn ei gadarnleoedd. Mae yna rymoedd amrywiol wrth wraidd unrhyw shifft ieithyddol wrth gwrs, ond mae deall y ffactorau sy’n gyrru allfudo siaradwyr Cymraeg ifanc o’r ardaloedd hyn yn un o flaenoriaethau cynllunwyr ieithyddol a datblygwyr polisi fel ei gilydd. Er gwaethaf hyn, tenau yw’r gwaith ymchwil yn y maes hwn.

Tuedda ymchwil mudo y gorffennol o fewn cyd-destun gwledig (sy’n nodwedd o gadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg yn aml) canolbwyntio ar fudo economaidd, tra bod ymchwil mwy diweddar yn amlygu ystyriaethau diwylliannol. Fodd bynnag, prin yw’r astudiaethau sy’n gwahaniaethu rhwng grwpiau sydd â blaenoriaethau gwahanol i’w gilydd. Enghraifft brin yw teipoleg a ddatblygwyd gan Cooke and Petersen (2019) sy’n archwilio i brofiadau bobl ifanc o ynysoedd gwledig wrth iddynt ddod i benderfyniadau ynghylch addysg, cyflogaeth a lleoliad. Er nad yw’r gwaith hwn yn edrych yn benodol ar Gymru mae’n cynnig fframwaith defnyddiol i ni wrth ystyried natur mudo yng Ngorllewin Cymru.

Cydnabyddir Cooke a Petersen (2019) bod yr heriau a wynebir ieuenctid ynysoedd gwledig mewn perthynas â mudo yn debygol o fod yn debyg i’r heriau a wynebir gan bobl ifanc o’r tir mawr. Fodd bynnag, dadleir:

“this dilemma can be exacerbated for those living on islands because of the logistical and psychological complexity of the “stay or leave” decision”.

Mae hyn yn codi’r cwestiwn, o ystyried arwyddocâd diwylliannol ac economaidd y Gymraeg, a yw’r iaith yn cymhlethu’r sefyllfa i’w siaradwyr? Ac er y siaradir ieithoedd lleiafrifol yn rhai o safleoedd ymchwil yr ymchwilwyr (ee. Ynysoedd Faroe a Donegal), nid oes cyfeiriad at ystyriaethau yn ymwneud ag ieithoedd lleiafrifol yn eu gwaith. Un o nodau fy ymchwil felly yw addasu teipoleg Cooke a Petersen (2019) ar gyfer cyd-destun lle siaradir y Gymraeg gan ystyried arwyddocâd yr iaith i benderfyniadau mudo ei siaradwyr.

Mae ein astudiaeth yn cynnwys 60 o gyfweliadau lled-strwythuredig gyda siaradwyr Cymraeg 18-40 mlwydd oed sydd wedi aros, gadael neu ddychwelyd i gadarnleoedd y Gymraeg er mwyn creu teipoleg sy’n cynrychioli’r amrywiaeth ym mlaenoriaethau siaradwyr wrth ddod i benderfyniadau ynghylch mudo. Ceir 23 o grwpiau o fewn teipoleg Bonner et al (2024) wedi eu gosod o fewn 3 brif gategori, sef yr Aroswyr, yr Ymadawyr, a’r Dychwelwyr.

Craffir isod ar dair grŵp teipoleg lle mae’r Gymraeg yn ffactor arwyddocaol ym mhenderfyniadau mudo’r grŵp, sef Y Gwreiddiedig, Y Cosmopolitaidd Cymraeg, a’r Dychwelwyr Magu Teulu.

Cychwynnir gyda’r Gwreiddiedig, sydd wedi eu lleoli o fewn adran yr Aroswyr. Nodwedd o’r grŵp teipoleg hwn yw eu bod wedi gwreiddio o fewn cymdeithas o’u gwirfodd ac yn dewis lleoliad oherwydd rhwydweithiau cymdeithasol cryf a defnydd cymunedol o’r iaith leiafrifol. Yng ngeiriau Cadi:

“O’dd gallu siarad Cymraeg yn rhywbeth rili pwysig i fi. Ac un o’r rhesyma o’n i isio aros yng Nghymru. […] So ma’ cael y cyfleoedd yn bwysig i mi, jyst mynd i’r pyb a jyst siarad Cymraeg, dwi’n licio gallu neud hynny”.

Felly ynghyd â bod yn agos at deulu a ffrindiau, mae’r Gymraeg yn ffactor allweddol ym mhenderfyniadau’r grŵp hwn gan eu bod yn mwynhau’r cyfleoedd sydd i siarad Cymraeg yn gymdeithasol, ac yn tybio y byddai gadael yn rhwystro’r cyfleoedd hyn.

Mae’r Gymraeg hefyd yn bwysig i grŵp teipoleg y Cosmopolitaidd Cymraeg. Fodd bynnag, mae’r grŵp hwn wedi dewis gadael a hynny oherwydd eu bod yn dyheu am fywyd dinesig. O ganlyniad, mae’r grŵp hwn fel arfer i’w canfod yng Nghaerdydd gan mai dyma ble mae’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg tu allan i’r fro Gymraeg ac felly mae cyfleoedd i gymdeithasu yn yr iaith yn fwy amlwg. Eglura Elin:

“Ond o’n i’n gwbod mae Caerdydd o’n i’n mynd i fynd achos […] o’n i moyn bod mewn cymuned Gymrag. So Caerdydd o’dd yr unig le allan i gal ‘na rili mewn dinas”. 

Mae’r Gymraeg hefyd yn ystyriaeth bwysig ym mhenderfyniadau’r Dychwelwyr Magu Teulu. Fel mae’r enw’n awgrymu, mae aelodau’r grŵp hwn wedi dychwelyd i fagu teulu trwy’r Gymraeg. Er bod cyfuniad o ffactorau yn bwysig i’r garfan hwn megis bod yn agos at rwydweithiau teuluol er mwyn derbyn cymorth gyda dyletswyddau gofal, mae’r Gymraeg yn ystyriaeth flaenllaw. Dywed Liam:

O’n i’n actively edrych ar adroddiadau Estyn yr ysgolion, o’n i actually yn edrych ar faint o blant sy’n dod o gartrefi iaith gyntaf Cymraeg a’r canrannau […] ‘O’n i’n teimlo’n weddol gryf odda ni am symud i ardal fwy Cymreigaidd ar gyfer yr ysgolion – a dyna natho ni.”

Yn wahanol i deipoleg Cooke a Petersen (2018) felly, mae canfyddiadau fy ngwaith ymchwil yn awgrymu bod ystyriaethau yn ymwneud â’r iaith leiafrifol yn ffactor allweddol ym mhenderfyniadau rhai grwpiau teipoleg. Fodd bynnag, rhaid cydnabod nad yw’r Gymraeg yn flaenoriaeth i bob siaradwr Cymraeg. Mae mwyafrif y grwpiau eraill o fewn y deipoleg yn rhoi blaenoriaeth i ffactorau gwahanol megis ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac addysgol. Fodd bynnag, er nad yw’r grwpiau hyn o reidrwydd yn blaenoriaethu materion sy’n ymwneud a’r Gymraeg, mae deall eu penderfyniadau yn allweddol ym maes cynllunio ieithyddol gan y gall ymfudo naill ai wanhau neu gefnogi cymunedau ieithyddol. Mae’r deipoleg felly yn cynnig dealltwriaeth gynnil o flaenoriaethau siaradwyr Cymraeg wrth ddod i benderfyniadau mudo ac fe amlygir yr angen am ymyriadau polisi sydd wedi’u targedu yn seiliedig ar dystiolaeth. Trwy fynd i’r afael ag anghenion economaidd-gymdeithasol siaradwyr Cymraeg a meithrin amgylcheddau lle gall y Gymraeg ffynnu, mae modd cynnal siaradwyr o fewn eu cymunedau neu eu denu yn ôl gan gefnogi bywiogrwydd hirdymor yr iaith.

Gellid darllen y papur llawn yma.

Mae Elen Bonner yn fyfyriwr doethuriaeth yn Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor ac yn ddeiliad ysgoloriaeth Martin Rhisiart drwy law’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Goruchwylwyr Elen yw Dr Cynog Prys, Dr Rhian Hodges a Dr Siwan Mitchelmore. Hoffai Elen ddiolch i bawb sydd wedi ei chynorthwyo neu gyfrannu i’w gwaith ymchwil.  

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This