Mewn blog gwadd arbennig i Arsyllfa, mae Victoria Bancroft o Severn Wye yn trafod y prosiect Dyfodol Gwledig wnaeth ariannu 14 rhaglen adfywio cymunedol ar draws Cymru a beth wnaeth y cynllun ddysgu iddi hi a’i chydweithwyr ynghylch y camau sydd eu hangen i fynd i’r afael a heriau cefn gwlad.
Er eu bod wedi eu bendithio a lleoliadau prydferth, yn aml mae nifer o gymunedau gwledig yn dioddef yn sgil caledi cudd. Gallent fod wedi eu hynysu yn ddaearyddol neu fel arall wedi eu heithrio rhag derbyn darpariaeth gwasanaethau, cysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus derbyniol, neu o gyflogaeth leol sydd yn talu’n dda.
Ond gall cymunedau fod yn bwerus, a gyda pheth cefnogaeth maent yn gallu ysgogi newid parhaol i’w hunain.
Rwyf wedi gweld a’m llygaid fy hun grym gweithredu ar raddfa fach ar lawr gwlad, drwy fy ngwaith gyda Dyfodol Gwledig, rhaglen saith mlynedd wedi ei hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol ac wedi ei weinyddu gan yr elusen gweithredu hinsawdd Asiantaeth Ynni Severn Wye.
Rhoesom gefnogaeth i 14 cymuned Gymreig i ddyfeisio prosiectau ar eu cyfer eu hunain oedd yn ateb eu gofynion yn uniongyrchol. Y nod oedd peidio glanio mewn cymunedau a datrysiadau parod, ond i rymuso grwpiau lleol i adnabod ac adeiladu ar eu sgiliau presennol ac i daclo’r materion oedd fwyaf pwysig iddynt hwythau.
Nod hanfodol arall oedd cyfathrebu’r profiad hwn i wneuthurwyr polisi fel bod polisïau gwledig y dyfodol yn gallu cael eu llywio gan dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim ar lawr gwlad.
Wynebu heriau
Anaml y mae gweithio gyda grwpiau cymunedol yn broses gwbl hamddenol. Teg yw dweud fod llwyddiant y rhaglen, a’r cymunedau, yn ddibynnol ar sgiliau’r rheini yr oeddem yn eu galw’n ‘gydlynwyr lle’ – cydweithwyr Severn Wye wedi eu gwreiddio yn eu cymunedau lleol wnaeth sicrhau ymddiriedaeth dros amser ac a oedd yn hanfodol er mwyn rhoi hwb cychwynnol i’r prosiectau ac i gynnal y momentwm drwy’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau. Roedd angen iddynt fod yn gyfathrebwyr sgilgar oedd yn gallu ymgysylltu mewn modd didwyll gyda’u grwpiau gan hefyd fod yn ymwybodol o sut i ganfod llwybrau i fwydo polisi rhanbarthol a chenedlaethol.
Fe wnaethant weithio a grwpiau cymunedol i adnabod yr asedau yr oeddent yn gallu eu datblygu – boed yn neuadd bentref, hanes ac etifeddiaeth, neu sgiliau a gwybodaeth leol – a sut i adnabod a blaenoriaethu’r materion yr oeddent am fynd i’r afael a nhw. Buont yn gweithio ochr yn ochr wrth i brosiectau cael eu dychmygu, eu datblygu a’u meithrin nes eu bod yn geisiadau effeithiol ar gyfer cyllid hyd at £140,000 o Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol ar gyfer bob prosiect.
Camau llwyddiant
Beth sydd ei angen i lwyddo fel cydlynwyr lle ar lawr gwlad? Mae angen amser – i ganfod y rheini sydd â dylanwad, ac i wneud yn siŵr fod y broses yn gynhwysol ac iddo fomentwm, tra hefyd yn sicrhau fod lleisiau pobl yn gallu cael eu clywed. Mae hefyd angen bod yn wydn ac yn ddiduedd i allu helpu grwpiau wrthsefyll heriau, cydnabod rhwystredigaethau pan mae pethau’n cymryd yn hirach na’r disgwyl, a bod yr edefyn aur pan mae pobl allweddol yn symud ymlaen ac mae angen i’r grŵp ddod ynghyd eto.
Eto, pan mae hynny i gyd yn dod ynghyd, pan mae cymunedau yn canfod eu lleisiau, dechrau defnyddio eu potensial ac a’r hyder i ddechrau gweithredu – dyma pryd ddaw’r hud a lledrith.
Ffrwyth llafur
Wrth i’r rhaglen ddatblygu daeth y buddion materol yn glir i’w gweld. Gwell cynwysoldeb cymdeithasol a digidol, mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth gwell. Roedd prosiectau’n cynnwys adeiladu neu ailwampio canolfannau cymunedol i gynnal gweithgareddau, creu cyfleodd i ddysgu gydol oes a darparu gofod i wasanaethau nad oeddent ar gael cyn hynny i gael eu darparu yn lleol.
Fe wnaeth gofidion ynghylch diogelwch a chostau bwyd arwain cymuned Llandysul, Ceredigion, i greu CIC newydd, Yr Ardd, i ddarparu bwyd rhad i drigolion lleol. Roedd y gofod hefyd yn trefnu rhaglenni hyfforddi a darparu cyfleoedd gwirfoddoli drwy gydol y flwyddyn ac yn cynnig man lle’r oedd pobl ifanc yn gallu dysgu am dyfu bwyd, gan roi rhesymau galwedigaethol a chymdeithasol iddynt aros yn yr ardal.
Fe wnaeth trigolion Pentredŵr, yn Sir Ddinbych, adnabod unigrwydd gwledig fel eu blaenoriaeth ac roeddent am gefnogi ffermydd defaid ucheldir Cymru. Fe wnaethant ddatblygu canolfan gymunedol fel lleoliad i helpu ffermwyr archwilio defnydd arloesol ar gyfer cnuoedd ucheldir o werth isel – megis matiau wrth gatiau fferm, llewys coed ac is garped ar gyfer llwybrau cerrig. Fe ddaeth y gymuned ynghyd i ddysgu sgiliau gwlân megis gwehyddu, nyddu a ffeltio a llwyddwyd i gynhyrchu incwm ychwanegol drwy werthu crefftau.
Bu grŵp arall ym Mro Machno yn ymchwilio’r rhesymau y tu ôl i’r diffyg enbyd o dai fforddiadwy lleol, gan gymryd eu canfyddiadau i’r Senedd. Gwelsom nifer o brosiectau yn ariannu rolau newydd, er enghraifft cydlynwyr gweithgarwch, ac i gyd fe wnaeth Dyfodol Gwledig greu 13 o swyddi newydd. Pan roedd eu rhaglenni yn ddibynnol ar ariannu pellach i gyrraedd eu hamcanion, roedd gan y grwpiau’r hyder i gyflwyno ceisiadau newydd i ffynonellau eraill, gan lwyddo ynghyd i ddod o hyd i fwy na £500,000 o gyllid ychwanegol i wireddu eu cynlluniau.
Goruchwyliaeth fanwl
Roedd Dyfodol Gwledig yn derbyn arweiniad gan Banel Gynghori Arbenigol, wedi ei greu i gefnogi a herio’r tîm rheoli’r rhaglen mewn modd cryf ond adeiladol, ac i eirioli ar ran y gwaith ac i rannu gwersi allweddol i sefydliadau ar draws Cymru.
Gofynnwyd i’r Athro Paul Milbourne o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd i rannu ei arbenigedd ar gyd-destun ehangach tlodi yng Nghymru. Cyfrannodd yr Athro Milbourne yr hyn oedd wedi ei ddysgu yn barod o waith blaenorol tebyg i Dyfodol Gwledig gan sicrhau fod y gwaith oedd yn cael ei wneud yn drylwyr yn academaidd.
Darparodd yr ymgynghorwyr cymdeithasol ac economaidd Wavehill werthusiad allanol i sicrhau fod y rhaglen yn cael ei wneud i’r safonau uchaf ac i asesu os oedd wedi llwyddo yn ei amcanion. Darparodd Wavehill werthusiad blynyddol o’r cynnydd, gydag adroddiad terfynol yn asesu effeithiolrwydd cyffredinol y rhaglen.
Etifedd o newid
Ni fyddwn yn deall yn llwyr beth y mae Dyfodol Gwledig wedi ei gyflawni am beth amser, a bydd yn rhaid i ni wneud mwy o werthuso yn y dyfodol i wybod ei effaith yn iawn. Eto mae’r rhaglen wedi dangos yn glir yn barod fod gan ymatebion sydd wedi eu harwain gan y gymuned rôl allweddol i chwarae fel rhan o unrhyw bolisïau gwrth dlodi a datblygu gwledig yng Nghymru.
Ni all dulliau o’r brig-i-lawr gyfrifo blaenoriaethau ac asedion lleol na adeiladu ar y sgiliau a’r gallu sydd ei angen ar gymunedau i siapio’u dyfodol eu hunain. Fe wnaeth bob un o brosiectau Dyfodol Gwledig gyflawni’u hamcanion er iddynt wynebu heriau llymder, Covid-19, Brexit a’r argyfwng costau byw. Fe wnaeth y rheini a gymerodd rhan ddweud fod y dull hwn o weithio wedi trawsnewid eu cymunedau, rhoi bywyd newydd ac wedi dod a phobl ynghyd i adfer calon eu cymunedau.
Dangos y ffordd ymlaen
Yn ein hadroddiad terfynol, fe wnaethom argymell y dylai’r berthynas rhwng cymunedau, y sector wirfoddol, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru newid, fel bod cymunedau wedi eu grymuso i ddarparu gweithredoedd ar raddfa fach ar lawr gwlad i fynd i’r afael a’r heriau ehangach a strwythurol maent yn eu hwynebu.
Mae angen cyllid sydd yn fy hir dymor a hyblyg arnom, a datrysiadau sydd wedi eu teilwra ar gyfer anghenion unigryw cymunedau.
Yr her nawr yw pa mor llwyddiannus y gall polisi o’r brig-i-lawr ateb anghenion llefydd gwledig os o gwbl, a pa mor effeithiol yw gwneuthurwyr polisi lleol a chenedlaethol wrth wrando ar a dysgu o’r cymunedau y maent yn ceisio eu helpu.
Ar yr un pryd, ar lawr gwlad, rydym wrth ein boddau i gael gweld fod nifer o’r cymunedau a gymerodd ran yn Dyfodol Gwledig wedi dechrau cynllunio gweithgarwch pellach yn barod. Mae Severn Wye wrthi yn recriwtio mwy o gydlynwyr llefydd i dywys deg cymuned arall ar daith tuag at effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy – ar ffurf Cymunedau ynNI / Energised Communities. Isod mae rhestr o argymhellion yng ngolau’r hyn a ddysgom yn ystod Dyfodol Gwledig.
Argymhellion
- Rhaid i gyllid fod yn hir dymor ac yn hyblyg, gan ganiatáu i gymunedau ganfod eu problemau a’u datrysiadau eu hunain.
- Mae angen i ffocws y cyllid fod ar ganlyniadau yn hytrach nag allbynnau.
- Mae’n hanfodol cael rhwydwaith o gydlynwyr llefydd sgilgar i helpu’r rheini nad oes ganddynt y sgiliau neu’r adnoddau i ennill grantiau.
- Dylid sicrhau cydweithrediad asiantaethau a chyfryngwyr allanol (boed yn lleol neu’n genedlaethol) yn gynnar yn y broses.
- Dylid teilwra unrhyw gymorth i anghenion cymunedau unigol: nid yw dull sy’n rhoi atebion unffurf yn un cynhyrchiol.
- Byddai prosiectau yn elwa o gymalau mynediad ac ymadael hirach fel rhan o brosiect hirach yn y dyfodol, gan roi mwy o amser i sicrhau addasrwydd ar ddechrau’r prosiectau a thapro cefnogaeth tua’r diwedd.
- Dylid cynyddu a hyrwyddo adnoddau ar lein ac arfer da ynghyd a darparu mwy o adnoddau er hwyluso rhwydweithio rhwng cyfoedion i helpu sicrhau llwyddiant.
- Mae angen ar gyfer ‘arsyllfa wledig’ – mecanwaith gall lywio polisi ac annog integreiddio a rhannu arferion arloesol ym myd datblygu cymunedol gwledig.
I ganfod mwy o wybodaeth ynghylch Dyfodol Gwledig ac am fanylion pob prosiect unigol dilynwch y ddolen hon i wefan Severn Wye. Am wybodaeth ynghylch ein prosiect newydd Cymunedau YnNi, dilynwch y ddolen hon.