Beth yw hanfodion twf yn seiliedig ar le? Gwersi i’w dysgu yn sgil datganoli.

October 2025 | Cymunedau a 'lle', Natur a hinsawdd, Polisi gwledig, Sylw

Mae adroddiad newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan yr Hwb Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol a Sefydliad Heseltine yn amlinellu’r hyn y gellid ei ddysgu ynghylch twf gan lywodraethau’r gwledydd datganoledig yn y DU, ynghyd a meiri dinas-ranbarth Lloegr. Ysgrifennwyd yr adroddiad gan yr Athro Rebecca Riley o Brifysgol Birmingham, sy’n gyfarwyddwr ar yr Hwb Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol.

Mae’r papur yn dadlau fod angen dull lleol mwy grymus i fynd i’r afael ac annhegwch rhanbarthol, ansicrwydd economaidd a’r angen i bontio at sero net.

Yn ôl y papur, mae saith hanfod i sicrhau twf sy’n seiliedig ar le sydd wedi eu llunio yn seiliedig ar dystiolaeth gychwynnol wedi’i gasglu o’r partneriaethau LPIP ar draws y DU ymysg ffynonellau eraill. Rhestrir yr hanfodion fel a ganlyn:

  1. Grymuswch Botensial Lleol
  2. Lluniwch Bolisi Mwy Deallus, gyda Thystiolaeth Leol
  3. Ariannwch y Nod, Nid y Cais
  4. Arweiniwch ar y Cyd, Tyfwch ar y Cyd
  5. Twf Sy’n Gweithio i Bawb – a’r Blaned
  6. Gwariwch yn Glyfar, Prynwch yn Lleol, Gyrrwch Arloesi
  7. Dysgwch yn Gyflym, Tyfwch yr hyn sy’n Gweithio

Nod y papur yw ceisio llywio polisi’r Blaid Lafur ynghylch datganoli ac adnewyddu economi lleol, gan roi cynigion y gellid gweithredu arnynt i Lywodraeth y DU yn seiliedig ar yr hyn sy’n gweithio’n barod. Gallwch ddarllen y papur yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This