Mae swyddogion o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi annog y rheini sy’n bwriadu ymweld â’r Wyddfa dros y Pasg i gynllunio eu teithiau yn ofalus er mwyn sicrhau diogelwch ac er parch i gymunedau ac amgylchedd yr ardal.
Mae disgwyl i filoedd ymweld â’r Wyddfa dros y pythefnos nesaf, ac mae’r cynnydd mewn ymwelwyr dros y blynyddoedd diweddar yn rhoi pwysau sylweddol ar yr isadeiledd lleol. Mae effaith hyn yn cael ei deimlo gan dîm achub mynydd Llanberis yn benodol sydd wedi profi’r nifer uchaf o alwadau ar gofnod yn ddiweddar.
Dywedodd Gruff Owen, Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis:
“Mae’r Pasg wedi profi i fod yn gyfnod heriol i’n tîm o wirfoddolwyr yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf wrth i ni orfod ateb sawl galwad o faterion difrifol ar yr un pryd.
Dros gyfnodau’r gwyliau mae’n rhaid i gerddwyr a dringwyr fod yn ymwybodol y gallwn fod wedi ein hymrwymo i ddigwyddiadau eraill ar y mynydd a bod rhaid i bobl aros yn hirach na’r arfer i gael eu hachub.
Gall nifer o’r digwyddiadau hyn gael eu hosgoi gyda chynllunio gofalus. Er mwyn lleihau’r pwysau ar ein gwirfoddolwyr, rydym yn annog i holl ymwelwyr y mynyddoedd gymryd camau diogelwch cyn dechrau ar unrhyw daith. Gwiriwch amodau’r tywydd, gwnewch yn saff o’r llwybr yr ydych yn bwriadu cymryd a chario dillad ac offer addas ar gyfer y tirweddau a’r tywydd.
Cofiwch nad oes modd rhagweld amodau’r mynyddoedd. Gall y tywydd newid yn gyflym a gall y dirweddau heriol achosi anhawsterau i’r cerddwyr mwyaf profiadol. Rydym yn annog cerddwyr a mynyddwyr i adnabod eu ffiniau a throi yn ôl os yw’r amodau’n anffafriol.
Trwy gymryd y camau hyn, gallwn leihau’r galw am ddigwyddiadau all gael eu hatal a sicrhau bod eich amser yn y mynyddoedd yn ddiogel ac yn brofiad y gallwch ei fwynhau.”
Mae swyddogion y Parc yn annog ymwelwyr i ddilyn canllawiau Mentra’n Gall. Hanfod Mentra’n Gall yw 3 cwestiwn allweddol y dylai ymwelwyr ofyn i’w hunain cyn dechrau ar daith:
- Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod?
- Ydw i’n gwybod beth fydd amodau’r tywydd?
- Oes gen i’r offer cywir?
Parcio
Mae swyddogion y Parc yn pwysleisio na ddylai ymwelwyr barcio yn anghyfreithlon neu’n anghyfrifol oherwydd sgil effeithiau posib hyn i wasanaethau brys, tirfeddianwyr a thrigolion lleol. Oherwydd poblogrwydd y Parc dros fisoedd y gwanwyn a’r haf, anogir ymwelwyr i ystyried os fydd llefydd parcio ar gael yn Llanberis a Nant Gwynant ar y diwrnod, ac os am barcio ym Mhen y Pass, i ragarchebu eu lle. Mae gwybodaeth am feysydd parcio ar gael ar wefan y Parc Cenedlaethol.
Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Pawson o Heddlu Gogledd Cymru:
“Mae Heddlu Gogledd Cymru, wedi ac yn parhau i weithio’n agos gyda’i bartneriaid – gan gynnwys ein timau achub mynydd gwirfoddol sydd o dan bwysau aruthrol eleni.
Mae gennym oll gyfrifoldeb personol os yr ydym yn teithio i gopa’r Wyddfa neu unrhyw fynydd arall yn Eryri. Mae angen i bobl gofio bod ein timau achub mynydd anhygoel yn wirfoddolwyr – sydd yn aml yn rhoi eu hunain mewn perygl er mwyn achub eraill. Trwy gael ychydig mwy o wybodaeth a sgiliau, a gwneud mwy o ymchwil o flaen llaw, efallai na fyddai unigolion yn canfod eu hunain mewn trafferthion.
Os ydych yn bwriadu ymweld â’r Wyddfa neu ardaloedd cyfagos, gwnewch yn sicr eich bod yn cynllunio eich taith. Mae cynllunio ymlaen llaw yn hanfodol i sicrhau eich bod yn cael diwrnod gwerth chweil – mae hyn yn cynnwys cymryd cyfrifoldeb personol am eich dillad, gwirio amodau tywydd a sicrhau bod eich holl weithredoedd o fewn eich gallu.
Mae cynllunio eich trefniadau parcio hefyd yn bwysig gan nad ydym am weld parcio anghyfreithlon neu anghyfrifol fel yr ydym wedi’i brofi yn y blynyddoedd diweddar. Mae gennym gyfleusterau parcio a theithio anhygoel, gwnewch y gorau ohonynt. Os ydych yn canfod eich hunain mewn trafferthion neu argyfwng tra yn yr awyr agored, ffoniwch 999 gan ofyn am wasanaeth achub mynydd a mi fyddwch yn derbyn cymorth.
Rydym yn gwerthfawrogi bod Eryri yn un o’r ardaloedd harddaf y byd, a gyda’r tywydd da yr ydym wedi ei brofi dros y gwanwyn, rydym yn rhagweld y byddwn yn ofnadwy o brysur dros yr wythnosau nesaf. Rydym am i bawb fwynhau’r golygfeydd ac i adael gyda atgofion bythgofiadwy.”
Dywedodd Angela Jones, Pennaeth Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol:
“Mae Eryri yma i bawb ei fwynhau ond mae mwynhâd angen mynd law yn llaw a chyfrifoldeb. Mae cynllunio ymlaen llaw, parchu’r amgylchedd a gwneud penderfyniadau cyfrifol yn golygu bod yr ardal arbennig hon yn cael ei gwarchod.”

