Gweithiodd tîm prosiect Arsyllfa gydag Ymchwil OB3 yn ystod Mehefin a Gorffennaf 2018 i ddatblygu asesiad dichonoldeb cwmpasu cychwynnol gyda’r prif nodau canlynol:
- Data ar weithgaredd entrepreneuriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Y cyd-destun polisi a strategol
- Darpariaeth gyfredol sy’n cefnogi entrepreneuriaeth o fewn y sir
- Rhai casgliadau ar y bylchau a’r cyfleoedd allweddol ar gyfer y dyfodol.
Mae’n tynnu ar ymchwil desg a chyfweliadau â chynrychiolwyr allweddol Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin ac Antur Teifi, a gynhaliwyd yn ystod Mehefin a Gorffennaf 2018.
I weld yr adroddiad asesiad dichonoldeb llawn gweler isod: