Wrth i Arsyllfa ddechrau ei ail gam, mae tîm y prosiect yn dweud bod ei waith yn bwysicach nag erioed, wrth i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin ddygymod ag effaith Covid-19.
Roedd Cam 1, ddaeth i ben ym mis Mehefin, yn canolbwyntio ar faes asesu dichonoldeb ac ymgysylltu â rhanddeiliaid y prosiect, er mwyn dadansoddi ymchwil sydd eisoes yn bodoli a sefydlu gwybodaeth gadarn er mwyn meithrin diwylliant entrepreneuraidd yn y sir.
Un maes ddaeth i’r amlwg yn glir oedd yr achos dros felin siarad wledig bwrpasol, gyda’r nod o feithrin diwylliant entrepreneuraidd ar hyd a lled Cymru wledig yn gyffredinol. Dim ond cyfiawnhau’r syniad hwn ymhellach wnaeth yr argyfwng iechyd cyhoeddus, wrth i’r wlad gloi, mwy o bobl nag erioed yn gweithio gartref, a busnesau’n cau eu drysau. Yn ystod Cam 2 bydd e-hwb yn cael ei sefydlu mewn partneriaeth â Rhwydwaith Gwledig Cymru er mwyn cymryd mantais o brofiad a gwybodaeth cymunedau gwledig tu hwn i ffin y sir.
Mae elfen prawf crefft y prosiect sy’n ceisio meithrin syniadau entrepreneuraidd newydd yn greiddiol i’r prosiect, a chafodd nifer o adroddiadau a phapurau academaidd eu dadansoddi er mwyn dylanwadu ar syniadau Arsyllfa, gan gynnwys ystyried effaith Brexit a Covid-19 ar Sir Gaerfyrddin.
Felly, un o’r meysydd mwyaf cyffrous fydd yn cael ei ddatblygu yn ystod Cam 2 yw gwobr prawf crefft arloesol ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Galwad agored am syniadau fel ffordd o feithrin cysyniadau cyn-fasnachol sy’n wych ar bapur, ond sydd angen eu profi ymhellach fydd hon. Mae’r tîm wrthi’n gweithio ar fanylion y wobr arloesi, fydd yn cael ei lansio ym mis Medi.
I weld crynodeb o Gam 1 a chiplun o’n cynlluniau ar gyfer Cam 2 dilynwch y dolenni i’r papurau isod:
Adroddiad Arsyllfa ar ddiwedd Cam 1