Arolwg newydd yn holi pobl ifanc am eu profiadau o fyw yn ARFOR

February 2026 | Sylw

Mae arolwg newydd wedi ei lansio i holi pobl ifanc yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin am eu profiadau o fyw yn y rhanbarth. Mae’r arolwg, sy’n cael ei gynnal gan y cwmni ymchwil Wavehill fel rhan o’u gwaith ehangach i raglen ARFOR, yn edrych am ymatebion gan siaradwyr Cymraeg rhwng 18 a 34 mlwydd oed.

Nod yr arolwg yw casglu tystiolaeth er mwyn siapio a dylanwadu unrhyw bolisïau neu ymyraethau tebyg i’r rhai sy’n cael eu dilyn gan ARFOR yn y dyfodol. Un o brif amcanion rhaglen ARFOR yw ceisio sicrhau fod pobl yn dewis byw ac aros yn y ‘Fro Gymraeg’ a nod ymchwil Wavehill yw archwilio’r ymdrechion sydd ar waith ar hyn o bryd i wneud hyn a mesur eu dylanwad.

Mae cyfle i’r rheini sy’n cymryd rhan yn yr arolwg ennill gwobr o daleb Amazon gwerth £25. Am fwy o wybodaeth ac i gwblhau’r arolwg dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This