Arlwy ARFOR yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024

Awst 2024 | Arfor, Sylw

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf yn dechrau ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd ar ddydd Sadwrn 3 Awst, mae yna lu o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ynghlwm wrth brosiect ARFOR. Gan fod y prosiect yn cael ei redeg a’i gyflenwi gan nifer o sefydliadau, mae yna amrywiaeth eang o sesiynau trafod ar wahanol bynciau yn ymwneud a’r Gymraeg a’r economi i’w profi eleni.

Llwyddo’n Lleol

Mae prosiect Llwyddo’n Lleol yn edrych ar sut y mae mudo pobl a theuluoedd ifanc yn effeithio ar y Gymraeg yng nghadarnleoedd yr iaith ac yn gweithio i ddenu siaradwyr Cymraeg sydd wedi symud i ddychwelyd i’w cymunedau. Mae ganddynt stondin ar y maes eleni (rhif 166 a 167) ac ynghyd a darparu gwybodaeth a chyfle i drafod y prosiect ar y stondin maent wedi trefnu rhaglen o weithgareddau a sesiynau er mwyn rhoi llais i safbwyntiau pobl ifanc ynghylch dychwelyd i ardaloedd ARFOR.

Bydd ‘Aduniad ARFOR’ yn cael ei gynnal rhwng 1:30yh a 2:30yh ar ddydd Mawrth 6 Awst ar y stondin bydd yn gyfle i unigolion rwydweithio a chyfarfod a phobl a busnesau sydd wedi bod yn rhan o brosiect ARFOR. Bydd yn gyfle da i’r rheini sydd ynghlwm wrth y prosiect, neu sydd am ddysgu mwy amdano i drafod eu profiadau a’u syniadau ynghylch ARFOR. Mae gofyn i’r rheini sydd am fynychu i gofrestru eu diddordeb erbyn canol dydd 2 Awst 2024 ac mae modd gwneud hynny drwy ddilyn y ddolen hon.

Yn dilyn yr aduniad am 2:30yh mae sgwrs banel o’r enw ‘Aros, Gadael neu Ddychwelyd?’ bydd yn clywed gan unigolion ifanc sydd wedi cael profiadau gwahanol o ran gyrfa ac addysg o symud i ffwrdd neu ddychwelyd i ardal ARFOR. Ar y panel bydd Nia Haf, Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol, yr actores Heledd Roberts, Sion Rhys Roberts sy’n wreiddiol o Geredigion ond wedi aros yng Nghaerdydd ar ôl cwblhau ei radd a Sioned Johnstone sydd wedi dychwelyd i Sir Gaerfyrddin i ddechrau busnes.

Cronfa Her

Mae’r Gronfa Her, sy’n cael ei redeg gan Mentera, yn ariannu prosiectau unigolion a busnesau sydd wedi eu lleoli yn ardal ARFOR ac sydd am wneud gwahaniaeth i’r modd y maent yn defnyddio’r iaith dwy ehangu neu ddatblygu syniadau arloesol. Mae gan adran y Gronfa Her sawl digwyddiad ar y gwell yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Ar ddydd Mercher 7 Awst bydd trafodaeth banel o dan y teitl ‘Llwyfan i Heriau ARFOR’ ar Stondin Prifysgol Aberystwyth rhwng 1yh a 3yh. Ar ddydd Gwener 9 Awst bydd y digwyddiad ‘Byd y campau yn ARFOR’ ym Mhentre’ Rhondda Cynon Taf / Calon Taf rhwng 10yb a 12yh. Hefyd ar y dydd Gwener bydd yna drafodaeth ar ‘Weithleoedd Cymraeg’ ym mhabell Prifysgol y Drindod Dewi Sant rhwng 12:30yh a 1:30yh. Mae gofyn i’r rheini sydd am fynychu’r digwyddiadau gadarnhau eu lle drwy e-bostio cronfa@mentera.cymru.

Prifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o bartneriaid adran Ymchwil a Gwerthuso prosiect ARFOR ac fel rhan o’r gwaith hwnnw yn cynnal trafodaeth ynghylch canfyddiadau’r gwaith hyd yma. Bydd Dr Elin Royles yn cadeirio’r digwyddiad ac mae’r panel yn cynnwys yr Aelod Seneddol Adam Price, Elen Bonner o Brifysgol Bangor, Llyr Roberts sy’n gweithio ar Gronfa Her ARFOR gyda Mentera, ac Ioan Teifi o Wavehill sy’n arwain y gwaith ar yr adroddiadau gwerthuso. Bydd y drafodaeth yn cael ei chynnal yn Y Lido ar y Maes am 2yh ar ddydd Gwener 9 Awst.

Ynghyd a’r sesiynau uchod sydd yn ymwneud yn uniongyrchol a phrosiect ARFOR mae yna amryw o ddigwyddiadau pellach sydd yn berthnasol i’r gwaith ehangach sy’n cael ei wneud ynghylch dyfodol yr iaith yn ein cymunedau. Efallai’r mwyaf arwyddocaol o’r rhain yw lansiad Adroddiad Terfynol y Comisiwn Cymunedau Cymraeg bydd yn amlinellu argymhellion terfynol y Comisiwn i Lywodraeth Cymru. Bydd Dr Simon Brooks, cadeirydd y Comisiwn yn trafod rhai o brif ganfyddiadau’r adroddiad ym mhabell y Cymdeithasau am 12yh ar ddydd Iau 8 Awst.

Mae modd canfod rhaglen lawn o ddigwyddiadau’r Eisteddfod Genedlaethol drwy ddilyn y ddolen hon i’w gwefan.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This