Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod am roi £247,194 tuag at warchod ardal o goedwig law dymherus yng Nghwm Elan. Bydd y prosiect sy’n rhan o’r Grant Buddsoddi Mewn Coetir (TWIG) yn gweld Dŵr Cymru a RSPB Cymru yn cydweithio ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed i geisio helpu’r coetiroedd dyfu’n llewyrchus.
Mae sawl bwriad ac amcan penodol gan y prosiect, gan gynnwys:
- Adfywio’r coetiroedd drwy atal defaid rhag pori mewn ardaloedd lle mae yna gynefinoedd bregus.
- Gwella mynediad i’r cyhoedd drwy osod meinciau a darparu mynediad at lwybrau coedwigaeth.
- Gosod byrddau gwybodaeth i ymwelwyr.
- Creu rhaglen addysg awyr agored i ysgolion lleol.
- Cynnal gŵyl i godi ymwybyddiaeth ynghylch y fenter a choedwigoedd glaw yng Nghymru.
Mewn datganiad dywedodd Jennifer Newman, Rheolwr Profiad Ymwelwyr Cwm Elan, Dŵr Cymru Welsh Water: ‘Rydym wedi ein cyffroi i allu gweithio mewn partneriaeth ag RSPB Cymru i ddiogelu coetiroedd derw Iwerydd o bwys rhyngwladol Elan, a elwir yn Fforestydd Glaw Celtaidd, i’r dyfodol. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli ac addysgol newydd i’r gymuned leol ac i ddiogelu ein bywyd gwyllt arbennig a’n bioamrywiaeth sy’n unigryw i Gwm Elan.’
Mae modd canfod mwy o wybodaeth ynghylch y prosiect a’r cynllun ariannu coetir ar wefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.