Gan Dr. Huw Lewis, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth
Er mwyn cyflawni amcan ARFOR o sefydlu ‘gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng yr economi a’r iaith’ rhaid diffinio’n gliriach a mwy pendant beth yw’r gwahanol ffyrdd y mae ffactorau economaidd a ieithyddol yn medru rhyngweithio a dylanwadu ar ei gilydd.
Mae Rhaglen ARFOR yn dwyn ynghyd awdurdodau lleol Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin i ddatblygu cynlluniau sydd â’r nod o hybu datblygiad economaidd ar draws siroedd y gorllewin, a thrwy hynny, rhoi hwb i ragolygon yr iaith Gymraeg. Cafodd ei sefydlu yn 2019, yn dilyn buddsoddiad cychwynnol o £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru. Ym mis Hydref 2022 daeth cadarnhad bod y Llywodraeth yn bwriadu darparu £11 miliwn pellach er mwyn ariannu ail wedd Arfor a fydd yn rhedeg hyd mis Mawrth 2025.
Yn sgil y cadarnhad o barhad y rhaglen, aethpwyd ati dros y misoedd diwethaf i adolygu amcanion strategol ARFOR, i lunio cynllun gweithredu newydd ac i gyhoeddi’r prosbectws, ARFOR: Creu Gwaith-Cefnogi’r Iaith. Yn arwyddocaol, wrth edrych drwy’r deunydd yma, un thema sy’n cael ei bwysleisio dro ar ôl tro yw bod angen datblygu gwell dealltwriaeth o natur y berthynas rhwng yr economi a’r iaith Gymraeg wrth weithredu ail wedd y rhaglen.
Er enghraifft, mae’r prosbectws yn nodi mai un o’r prif wersi o ARFOR 1 oedd bod ‘angen deall y berthynas rhwng yr economi a’r iaith yn well’ (t. 4). Mae’r cynllun gweithredu yn ategu hyn, gan nodi bod angen i ail wedd ARFOR ‘warantu fod modd dysgu mwy am y gydberthynas rhwng yr economi a’r Gymraeg’ (t. 9). Hefyd, wrth gyflwyno’r rhesymeg ar gyfer Cronfa Her ARFOR, cydnabyddir bod ‘diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o’r berthynas rhwng yr economi a’r Gymraeg’ wedi bod ‘yn gasgliad allweddol o werthusiad gwedd gyntaf ARFOR’ (t. 19).
Cam cyntaf hanfodol er mwyn sefydlu’r math hwn o ddealltwriaeth yw ceisio diffinio’n fwy pendant beth yw’r gwahanol ffyrdd y mae ffactorau economaidd a ieithyddol yn medru rhyngweithio a dylanwadu ar ei gilydd. Mae mynd i’r afael â hyn yn allweddol, gan y bydd yn caniatáu i ni weld yn gliriach y gwahanol themâu neu gwestiynau sy’n tueddu i gael eu cyfuno o dan bennawd cyffredinol fel ‘y berthynas rhwng economi a iaith.’ Bydd hefyd yn debyg o gefnogi’r ymyraethau a’r mentrau a ddaw yn sgil ARFOR 2, er enghraifft trwy sicrhau eglurder ynglŷn â natur prosiectau, a trwy gryfhau ymdrechion i bwyso a mesur pa mor addas yw eu rhesymeg neu pa fath o ganlyniadau sy’n debygol o ddod o ohonyn nhw.
At ei gilydd, wrth drafod sefyllfa ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg, mae ystod o ymchwilwyr blaenllaw wedi pwysleisio arwyddocâd y cysylltiad rhwng yr economi â pharhad ieithoedd lleiafrifol. Er enghraifft, i Lenore Grenoble a Lindsay Whaley (1998: 125), ‘[economics] may be the single strongest force influencing the fate of endangered languages.’ Ategodd Wayne Harbert (2011: 404) hyn gan hawlio mai ffactorau economaidd yw ‘the fundamental shapers of the fortunes of endangered languages’. Yn ogystal, dadleuodd Colin Baker (2011: 55) bod ffactorau economaidd yn ‘key element in language vitality.’
Fodd bynnag, ar ben ei hunain nid yw datganiadau cyffredinol fel hyn yn cynnig llawer o arweiniad ymarferol. Mae angen camu ymhellach a cheisio diffinio beth yw’r gwahanol ffyrdd y mae ffactorau economaidd a ieithyddol yn medru rhyngweithio a dylanwadu ar ei gilydd. O ystyried hyn, un dull posib o geisio diffinio agweddau gwahanol o’r berthynas rhwng ffactorau economaidd a ieithyddol ydi rhannu’r maes yn ddau gategori penodol, gan feddwl o bersbectif effaith iaith ar yr economi ar y nail llaw, ac effaith ffactorau economaidd ar iaith ar y llaw arall.
Y cysylltiad iaith > economi
Agwedd allweddol o’r berthynas yw’r graddau y mae ffactorau ieithyddol yn dylanwadu ar ganlyniadau economaidd. Yn yr achos hwn mae’r ffocws ar ystyried a ellir trin iaith fel ffactor sy’n medru arwain at ganlyniadau economaidd gwahanol (h.y. iaith > economi). O’r persbectif hwn mae’r sylw ar gwestiynau fel: a yw medru siarad Cymraeg yn debyg o hybu rhagolygon gyrfa neu gyflog unigolyn? Neu: a yw defnyddio’r Gymraeg mewn deunydd brandio neu ddeunydd cyhoeddusrwydd yn debyg o helpu cwmni i ddenu cwsmeriaid? Gallwn feddwl am y berthynas iaith > economi yma ar draws ystod o lefelau gwahanol – o lefel unigolyn, i lefel sefydliad, i lefel cymdeithas:
- Lefel unigolyn: y graddau bod sgiliau iaith person yn dylanwadu ar ei ragolygon gwaith, lefel cyflog ayb.
- Lefel sefydliad: y graddau bod defnydd cwmni o iaith/ieithoedd penodol yn dylanwadu ar ei berfformiad – e.e. incwm, trosiant, proffil marchnad ayb
- Lefel cymdeithas: y graddau bod sgiliau iaith poblogaeth yn dylanwadu ar berfformiad economaidd rhanbarth neu wladwriaeth mewn economi fyd-eang – e.e. lefelau mewnfuddsoddi, lefelau masnach, maint GDP ayb.
Tra bod natur y materion sy’n cael eu hystyried ar draws y lefelau hyn yn amrywio cryn dipyn, yr hyn sy’n eu clymu gyda’i gilydd yw’r ffaith eu bod i gyd yn ymwneud â’r graddau bod ffactorau ieithyddol yn debyg o ddylanwadu ar ganlyniadau economaidd.
O edrych yn ôl ar y nodau cyffredinol oedd yn sail i raglen ARFOR 1, gellir gweld bod dau ohonynt yn rhai sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng iaith ac economi o’r persbectif hwn (gweler yr adroddiad Gwerthuso, Casgliadau ac Argymhellion Rhaglen Arfor, 2021, tud. 2), sef:
- Hyrwyddo gwerth eang o ddefnyddio’r Gymraeg a dwyieithrwydd mewn busnes gan greu naws am le bywiog.
- Annog y busnesau a’r bobl sy’n symud i ardaloedd gwledig i werthfawrogi a defnyddio’r Gymraeg.
Y cysylltiad economi > iaith
Agwedd wahanol ac efallai mwy heriol o’r berthynas yw’r graddau mae ffactorau economaidd yn dylanwadu ar ganlyniadau ieithyddol. Yma mae’r berthynas yn llifo i’r cyfeiriad arall ac mae’r ffocws ar ystyried sut mae’r economi yn medru arwain at ganlyniadau ieithyddol gwahanol (h.y. economi > iaith). O ganlyniad, mae gofyn rhoi sylw i gwestiynau gwahanol. Er enghraifft, sut mae prosesau neu newidiadau sy’n gysylltiedig â thueddiadau masnach, neu ddatblygiadau cyflogaeth newydd mewn ardal benodol, neu fentrau cyffredinol sy’n gysylltiedig â strategaethau datblygu economaidd rhanbarthol, yn effeithio ar sefyllfa’r Gymraeg?
O ran yr effaith ieithyddol posib, y disgwyliad o’r persbectif economi > iaith yw y gall yr effeithiau fod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol:
- Uniongyrchol: bod newid economaidd fel datblygu cyfleoedd cyflogaeth newydd mewn ardal benodol yn effeithio ar arferion defnydd iaith rhan o’r boblogaeth leol yn sgil polisi iaith y cyflogwr. Os yw’r cyflogwr yn gweithredu’n fewnol trwy’r Gymraeg, gall yr effaith ar y defnydd dydd-i-ddydd o’r iaith fod yn gadarnhaol. Ond os yw’r cyflogwr yn gweithredu’n bennaf trwy’r Saesneg, yna bydd yr effaith ar y defnydd o’r Gymraeg naill ai’n niwtral neu’n niweidiol, yn enwedig os yw’n golygu tynnu siaradwyr Cymraeg o weithleoedd lle byddent wedi gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Anuniongyrchol: bod newid economaidd fel datblygiad sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth newydd mewn ardal benodol yn effeithio ar dueddiadau mudo, ac yn sgil hynny, yn gallu effeithio ar y nifer o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn yr ardal a’r dwysedd o siaradwyr fel canran o’r boblogaeth leol. Os yw datblygiad yn cyfrannu at gadw siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, neu’n annog siaradwyr Cymraeg i symud yno i weithio, mae’n bosib y bydd yr effaith ar sefyllfa ddemograffig yr iaith yn gadarnhaol. Ond os yw’r cyfleoedd gwaith newydd yn tueddu i sbarduno mudo i’r ardal gan bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg, yna gallai’r effaith demograffig fod yn fwy negyddol. Dau gwestiwn pwysig sy’n codi mewn perthynas â hyn (ac a drafodir mewn blog arall i’w gyhoeddi’n fuan) yw: i) i ba raddau bod datblygiadau cyflogaeth o raddfa benodol neu mewn sectorau penodol yn debygol o gael effaith mwy negyddol ar sefyllfa’r iaith; a ii) i ba raddau bod modd cyfyngu ar effaith ieithyddol negyddol rhai datblygiadau trwy fesurau addysg a chymhathu cadarn?
Ar y cyfan, y persbectif economi > iaith, sydd agosaf at yr hen ymadrodd cyfarwydd, ‘gwaith i gadw’r iaith’, neu ei gydymaith Gwyddelig, ‘no jobs, no people; no people, no Gaeltacht.’
O edrych eto ar y nodau cyffredinol oedd yn sail i ARFOR 1, gellir gweld bod dau arall yn rhai sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng economi a iaith o’r persbectif hwn (gweler yr adroddiad Gwerthuso, Casgliadau ac Argymhellion Rhaglen Arfor, 2021, tud. 2), sef:
- Hyrwyddo menter a chefnogi twf busnes mewn ardaloedd sydd â chyfran uchel o siaradwyr Cymraeg.
- Cynhyrchu mwy o swyddi â chyflog gwell i gadw pobl leol yn yr ardaloedd hyn ac annog y rhai sydd wedi gadael i ddychwelyd.
I grynhoi, cam cyntaf allweddol er mwyn cyflawni amcan ARFOR o sefydlu ‘gwell dealltwriaeth o’r berthynas rhwng yr economi a’r iaith’ yw ceisio diffinio’n fwy pendant y gwahanol ffyrdd mae ffactorau economaidd ac ieithyddol yn medru dylanwadu ar ei gilydd. Yn y blog hwn cyflwynwyd un dull o wneud hyn sy’n seiliedig ar y rhaniad rhwng y cysylltiad iaith > economi ar un llaw, a’r cysylltiad economi > iaith ar y llaw arall; syniadau sy’n deillio o waith gwblhawyd fel rhan o brosiect ymchwil Adfywio, arweiniwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caeredin.
Yn ymarferol, wrth gwrs, mae elfen o orgyffwrdd rhwng y ddau gategori ac ni ellir eu trin fel agweddau cwbl digyswllt. Ond, ar lefel gyffredinol, byddai meddwl o safbwynt y rhaniad iaith > economi / economi > iaith yn ddefnyddiol i swyddogion sy’n gysylltiedig â Rhaglen ARFOR, yn ogystal â swyddogion o Llywodraeth Cymru neu aelodau o gyrff perthnasol eraill. Mae gwahaniaethu’n fwy eglur rhwng y graddau bod polisi neu ymyrraeth yn ymwneud yn bennaf â defnyddio’r Gymraeg i hybu’r economi, neu’n ymwneud â cheisio dylanwadu ar yr economi i gefnogi’r Gymraeg yn caniatáu meddwl dyfnach ynglŷn â natur cynlluniau, y rhesymeg sylfaenol sy’n sail iddyn nhw a’r math o ganlyniadau sy’n debyg o ddod ohonynt.