Mae prosiect ARFer Prifysgol Bangor yn eiddgar i ddenu mwy o ddefnyddwyr wedi cyfnod profi cychwynnol llwyddiannus ar gyfer ap ffôn sy’n hwyluso defnyddio Cymraeg yn y gweithle. Nod ap ARFer yw ceisio neud y broses o siarad Cymraeg yn y gweithle yn hwyl i’r rheini nad ydynt yn defnyddio’r iaith yno ar hyn o bryd. Drwy osod targedau a heriau i ddefnyddwyr, y bwriad yw galluogi defnyddwyr i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg gam wrth gam.
Daw sylfaen ymchwil y fethodoleg tu ôl i’r ap o ddulliau newid ymddygiad ac mae’r cynllun wedi ei ysbrydoli yn rhannol gan waith Soziolinguistika Klusterra yng Ngwlad y Basg. Wrth wraidd y prosiect mae dwy egwyddor greiddiol a’u gwreiddiau mewn theori newid ymddygiad, sef:
- Ymrwymo i ymddygiad penodol;
- Manteisio ar y dylanwad sylweddol y mae rhagosodiadau yn gallu ei gael ar ymddygiad.
Mae’r prosiect wedi ei gyllido gan Lywodraeth Cymru ers 2019. Fe wnaeth cais llwyddiannus i Gronfa Her ARFOR II sicrhau fod cyllid gan y prosiect i ddatblygu ap penodedig mewn partneriaeth gyda Galactig, un o is-gwmnïau’r cwmni cynhyrchu Rondo sy’n arbenigo mewn datblygu meddalwedd. Fe wnaeth hyn roi cyfle i roi egwyddorion sylfaenol y prosiect ar waith mewn modd hwylus y gellid ei ddefnyddio’n eang.
Nid nod yr ap yw dysgu Cymraeg i unigolion, ond yn hytrach darparu fframwaith ar gyfer helpu staff mewn gweithleoedd i ddefnyddio mwy o Gymraeg beth bynnag eu gallu. Mae elfennau sy’n ‘gêmeiddio’r’ profiad o ddefnyddio’r ap drwy osod targedau a chyraeddiadau, a gosod elfen gystadleuol i ddefnyddio’r Gymraeg wedi profi’n boblogaidd gyda defnyddwyr cychwynnol, gyda nifer yn dweud fod yr elfen gystadleuol yn benodol wedi llwyddo i’w hysgogi i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle.
Wedi cyfnod prawf sydd wedi cael ymateb cadarnhaol, mae tîm y prosiect yn eiddgar i gynyddu’r niferoedd er mwyn i fwy o weithleoedd gael bod yn rhan o’r prosiect a chryfhau dealltwriaeth y tîm ynghylch cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae diweddariad sylweddol i’r ap ar y gweill bydd yn caniatáu mwy o sefydliadau a phobl i gymryd rhan ac i gryfhau a gwella’r modd y gall bobl gofrestru a defnyddio’r ap.
Mae tîm y prosiect – Dr Lowri Hughes, Dr Arwel Williams, a Dr Shân Pritchard o Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor – yn eiddgar i weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio ARFer ac yn cynyddu eu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Dywedodd Dr Arwel Williams:
“Mae gan yr ap y potensial i ddysgu llawer i ni am batrymau defnydd iaith ac rydyn ni’n awyddus i gael cymaint o bobl â phosib yn rhan o’r prosiect fel ein bod yn dysgu sut orau i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd mewn gweithleoedd.”
I ddysgu mwy am y prosiect, neu i weld sut allwch chi a’ch gweithle gymryd rhan, dilynwch y ddolen hon i dudalen gwe ARFer neu e-bostiwch Arwel ar arwel.williams@bangor.ac.uk.

