Mae cylcholrwydd mewn amaethyddiaeth yn cael ei gydnabod yn gynyddol fel strategaeth addawol i gefnogi trawsnewidiad gwyrdd tuag at gynhyrchu bwyd cynaliadwy. Mae Ffion Evans, ymchwilydd doethuriaeth ym Mangor, yn edrych ar sut y gallai cylcholrwydd wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol amaethyddiaeth.
Fel rhan o brosiect Ffion, bydd y potensial i liniaru nwyon tŷ gwydr ac effeithiau economaidd mabwysiadu arferion cylchol penodol yn cael eu modelu. Bydd gweithdai rhanddeiliaid gyda ffermwyr, yn ogystal â gyda chynrychiolwyr diwydiant a pholisi, hefyd yn cael eu cynnal i ddeall y rhwystrau a’r cyfleoedd i fabwysiadu cylcholrwydd yn ehangach a’r cyfleoedd i wneud hynny.
Gallwch ddarllen y stori lawn am yr ymchwil hwn yng nghylchlythyr Cynnal Sustain.