Gan Dr Dyfan Powell, Wavehill
Ym Mis Gorffennaf 2020 fe gyhoeddodd Comisiwn Symudedd Cymdeithasol (Social Mobility Commission) a’r Institute for Employment Studies eu hadroddiad, ‘Moving out to move on: Understanding the link between migration, disadvantage and social mobility’.[1] Bwriad yr astudiaeth oedd ceisio deall pam fod pobl yn gadael ardaloedd difreintiedig ac effaith yr allfudo hynny ar y cymunedau yr roeddent yn gadael. Cyflwynir llawer o ddata yn yr adroddiad a cheir trafodaeth ddifyr sy’n berthnasol i ardal Arfor, a’r heriau y mae’n ei wynebu. Yn bwysig, dyma un o’r adroddiadau cyntaf sy’n trin a thrafod data a gasglwyd yn ystod argyfwng COVID-19, ac sy’n dadansoddi effaith yr argyfwng ar allfudo. Dyma grynodeb o’r hyn sydd o ddiddordeb i’r rheini sy’n ceisio deall a mynd i’r afael â thraweffaith heriau allfudo ar ardaloedd gwledig Cymru.
Allfudwyr
Mae’r adroddiad yn adlewyrchu darlun o allfudwyr sy’n gyffredin i ardal Arfor. Mae’r data’n cynnig fod allfudwyr yn llawer mwy tebygol o symud yn eu 20au cynnar a bod ganddynt gymhwyster lefel gradd neu uwch. Yn ogystal, mae menywod yn fwy tebygol o symud na dynion – mae lefelau allfudo 16% yn uwch i fenywod.[2]
Mae’r gwaith hefyd yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r fath o bobl sydd yn symud ac mai unigolion o gefndir economaidd-gymdeithasol uwch yw’r rhai mwyaf symudol. Ond, ar y cyfan, mae llif yr allfudo yn dueddol i fynd o ardaloedd sydd â lefelau tebyg o amddifadedd h.y. mae unigolion o gefndiroedd difreintiedig yn symud i ardaloedd difreintiedig eraill, tra bod unigolion o gefndiroedd llewyrchus, yn dueddol i symud i ardaloedd llewyrchus.
Budd allfudo
Mae allfudwyr ychydig yn fwy tebygol o ddarganfod swydd ac o gael swydd rheolaeth uwch ac ar gyfartaledd yn derbyn cyflog uwch na’r rheini sydd yn aros yn eu hardal.[3] Ond mae’r gwahaniaethau rhwng allfudwyr o gefndiroedd difreintiedig yn fwy arwyddocaol na’r rheini o gefndiroedd cefnog h.y. mae mwy o fudd economaidd i symud o ardal difreintiedig.
Rhesymau dros allfudo
Er bod yna fanteision economaidd dros symud – nid dyma yw’r unig rheswm dros symud.[4] Mae’r buddion y mae allfudwyr yn eu crybwyll yn ymwneud ag ystod o ffactorau, megis gwell gofal iechyd, gwell addysg, trafnidiaeth cyhoeddus sy’n well ac yn fforddiadwy yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol sy’n dueddol i fod yn fwy cyffredin a deniadol o fewn ardaloedd dinesig. Dyma ffactorau sy’n ymwneud â safon byw, nid ffactorau economaidd. Yn wir, mae allfudwyr yn cydnabod fod costau byw yn uwch ar ôl symud i ddinasoedd, ac yn un o ganlyniadau negyddol allfudo. Ond mae’n bris sy’n werth ei dalu yn nhyb yr allfudwyr yma, o ystyried y buddion ehangach.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig nad yw pobl yn aros yn eu hardaloedd am resymau economaidd. Mae hyfywdra’r cysylltiadau cymdeithasol a rhesymau diwylliannol, personol a theuluol yn ffactorau dylanwadol. Mae hyn yn bwysig o ystyried mai prif ymateb polisi i allfudo yn ardaloedd gwledig Cymru, yw i ffocysu ar ffactorau economaidd a chyflogaeth – nid y ffactorau sy’n peri pobl i ddewis aros.
COVID-19
Mae’r adroddiad yn gymharol unigryw, gan iddo gyflwyno data a gasglwyd ac a ddadansoddwyd yn ystod cyfnod COVID-19. Mae’n rhagdybio y bydd effaith COVID-19 ar gyflogaeth ac ar weithgarwch economaidd yn effeithio ar batrymau mudo am gyfnod hir. Gallai myfyrwyr ifanc ohirio eu hastudiaethau agohirio gwneud penderfyniadau sy’n peri risg, megis symud i ardal newydd i chwilio am swydd. Yn y cyfamser, mae’r niferoedd o bobl sy’n dibynnu ar gymorth y wladwriaeth drwy gynlluniau cefnogi swyddi wedi cynyddu’n sylweddol, ac hefyd yn wynebu risg o symud i ffwrdd o rhwydweithiau cymorth teuluol a chymdeithasol sydd wedi bod yn hanfodol yn ystod cyfnod yr argyfwng.
Ochr arall a “chadarnhaol” y clefyd yn y cyfamser yw y bod gweithluoedd a chyflogwyr wedi dod yn fwy cyfarwydd â threfniadau gweithio o bell, ac wedi newid barn o ran ei fanteision. Gallai agwedd fwy cadarnhaol tuag at weithio o’r cartref leihau’r angen am fudo neu gymudo.
Yn hyn o beth, gellir disgwyl cwymp yn y niferoedd sy’n allfudo o ardal Arfor.
Argymhellion polisi
Mae’r data a’r dadansoddiad sy’n cael ei gyflwyno yn hynod berthnasol i ardal Arfor, a’r rheini sy’n gweld mai colled pobl ifanc yw prif wendid ieithyddol yn ogystal ag economaidd yr ardal.
Mae’r adroddiad yn cloi gan gyflwyno ystod o argymhellion polisi. Fel y disgwylir, mae pwyslais ar wella seilwaith a sgiliau digidol, cysylltedd trafnidiaeth a thai o ansawdd da; y tri cynhwysyn mwyaf hanfodol i alluogi lleoedd i ddenu pobl newydd a chadw eraill. Ond dyma dair arall sy’n torri tir ychydig yn wahanol i’r galwadau arferol am fwy o wariant cyhoeddus a gwella isadeiledd:
Prifysgolion: Mae’r adroddiad yn argymell y dylai prifysgolion a cholegau gydweithio i sicrhau bod gan ardaloedd lleol a phenodol, lwybrau addysg cynhwysfawr a hyblyg i’r rhai sy’n gadael yr ysgol ac i oedolion. Mae ardal Arfor yn unigryw gan fod y pedair awdurdod wledig yn gartref i bedair prifysgol. Mae’r adroddiad yn cynnig y gall y prifysgolion yma chwarae mwy o rôl yn natblygiad economaidd yr ardaloedd.
Datblygu hunaniaeth yr ardal: Mae awduron yr adroddiad yn cynnig y dylid ceisio cryfhau’r ymdeimlad diwylliannol o hunaniaeth ardal ym mhob cymuned leol. Mae cyflwyno hunaniaeth gref yn medru denu unigolion i ardal a chadw unigolion yno.
Gweithluoedd amrywiol: Dylai cyflogwyr feddwl am recriwtio a sefydlu llwybrau dilyniant y tu hwnt i’w pencadlysoedd daearyddol traddodiadol, a cheisio datblygu trefniadau gweithio hyblyg sy’n galluogi gweithio o bell. Gellir dadlau fod gan gyrff ac awdurdodau cyhoeddus rôl wrth arwain a chynorthwyo hyn.
[1]https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/902943/Moving_out_to_move_on_report.pdf
[2] Mae’r ymchwil ansoddol o grwpiau ffocws yn cynnig fod ceisio canfod swyddi ag oriau gwaith hyblyg yn bwysig, sy’n aml yn gysylltiedig â chyfleusterau gofal plant fforddiadwy.
[3] Mae data’n cynnig, er enghraifft, fod 71.7% o allfudwyr yn sicrhau swydd rheolaeth uwch, ond mai 28.1% yn unig o’r rheini sy’n aros yn eu hardal sy’n sicrhau swydd o’r fath. Mae cyflogau misol allfudwyr 33% yn uwch na’r rheini nad sy’n symud.
[4] Yn wir, y prif rheswm economaidd dros symud yw i ddarganfod swydd yn unig, nid i sicrhau gwell swydd neu dâl uwch. Ond, mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno data sy’n cynnig ystod o rhesymau ehangach dros allfudo.