Mae dadansoddiad o ddata Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) gan Hybu Cig Cymru wedi dangos fod allforion cig defaid y Deyrnas Gyfunol wedi perfformio’n dda o gymharu’r ffigurau a rhai llynedd. Mae’r data yn dangos fod allforion o gig ffres ac wedi ei rewi wedi cynyddu 14%, tra bod mewnforion wedi cwympo’n sylweddol rhwng mis Ionawr a Mehefin eleni.
Aeth 94% o’r cynnyrch hwn i farchnadoedd oddi fewn i’r Undeb Ewropeaidd, gyda Ffrainc a’r Almaen yn derbyn 2,500 a 1,700 o dunelli yn fwy na’r un cyfnod yn 2022. Dywedodd Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes Hybu Cig Cymru:
‘Digwyddodd hyn er taw llai nag un y cant yn fwy o gig oen o’r DU oedd ar y farchnad na’r flwyddyn flaenorol,’ gan ychwanegu ‘Ac am fod y cyflenwad yn y DU fel arfer ar ei uchaf yn ystod hanner olaf y flwyddyn, byddem yn disgwyl i’r fasnach gref hon barhau.’
Bu gostyngiad o 31% ym mewnforion cig defaid, serch gofidion y byddai cynnyrch rhad o Seland Newydd yn llenwi’r farchnad yn sgil cytundeb masnachu rhwng y Deyrnas Gyfunol a’r wlad honno ym mis Chwefror 2022. Er i’r mwyafrif o’r holl gig defaid a gafodd ei fewnforio ddeillio o Seland Newydd, gyda 60% o’r holl gig defaid a gafodd ei fewnforio yn dod o’r wlad, gwelwyd 8,000 tunnell yn llai o gig defaid yn cael ei fewnforio oddi yno. Yn ôl Glesni Phillips, mae hyn o ganlyniad i dwf posib yn y farchnad mewn gwledydd eraill:
‘Mae’n ymddangos bod y gostyngiad yn y mewnforio yn adlewyrchu newidiadau i ofynion defnyddwyr yn fyd-eang. Er enghraifft, aeth llawer o gynnyrch Seland Newydd ac Awstralia i Tsieina.’
Daw’r dadansoddiad diweddaraf hwn o Fwletin y Farchnad Hybu Cig Cymru ar gyfer mis Awst. Bob mis mae Hybu Cig Cymru yn llunio bwletin er mwyn helpu’r cyhoedd a rheini sy’n rhan o’r diwydiant cig yng Nghymru i ddeall y farchnad yn well. Gallwch ddarllen eu bwletin diweddaraf, sy’n cynnwys dadansoddiad o allforion a mewnforion cig eidion a phorc ar gyfer 6 mis cyntaf 2023, drwy ddilyn y ddolen hon i’w gwefan.