Mae Rhwydwaith Iaith WISERD yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i gynnig cyfleoedd cyfnewid gwybodaeth a rhyngweithio rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr sy’n ymwneud â pholisi iaith Gymraeg neu ymchwil i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol eraill. WISERD yw Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru.
Dros y misoedd diwethaf mae’r rhwydwaith wedi cynnal seminar arlein misol a gweithdy cyfnewid gwybodaeth. Swyddogion Llywodraeth Cymru fu’n cyflwyno yn seminar arlein mis Chwefror am eu ‘Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil: Cymraeg 2050’. Bu’n gyfle i glywed gan Eleri Jones a Jeremy Evas am y blaenoriaethau ymchwil i Lywodraeth Cymru ar ffurf cwestiynau ymchwil ar themâu Cymraeg 2050 ac o ran dulliau dadansoddi ac ymchwilio ar gyfer y Gymraeg. Yn y Gweithdy Cyfnewid Gwybodaeth Polisi Iaith Gymraeg gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 12.3.26 y prif siaradwr oedd Yr Athro Bernadette O’Rourke, Prifysgol Glasgow. Yn ogystal roedd deg cyflwyniad arall oedd yn cynnwys cyfraniadau gan ymarferwyr polisi, ymchwilwyr PhD a gyrfa cynnar a phrosiectau ymchwil mwy fel Prosiect Bro.
Y digwyddiadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yw seminar arlein mis Ebrill ‘Cyfle ein cenhedlaeth: Adroddiad 5-mlynedd Comisiynydd y Gymraeg’ fydd yn cael ei gynnal 1-2yp 23 Ebrill 26. Gallwch gofrestru ar gyfer y seminar arlein yma. Hefyd mae’r rhwydwaith yn croesawu gwahanol fathau o gyfraniadau i’w cyflwyno fel paneli i’r Gynhadledd WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd, 8-9 Gorffennaf 2026. Bydd y digwyddiad yma am ddim a croesewir cyfraniadau fel meicro gyflwyniadau fydd yn cael eu cyfuno mewn un panel, panel ar bwnc un ai ar ffurf papurau neu fformat trafodaeth banel, neu arbrofi gyda fformatau eraill. Gellir cyflwyno syniad fan hyn a’r dyddiad cau yw dydd Llun 27 Ebrill. Bwriedir cynnal seminarau arlein ym mis Mai a mis Mehefin a bydd y cyflwynwyr a’r dyddiadau yn cael eu cadarnhau’n fuan.
Ariennir gweithgareddau’r rhwydwaith eleni gan Gronfa Amgylchedd a Diwylliant Cymru a WISERD. Gellir cofrestru ar gyfer rhestr ebostio Rhwydwaith Iaith WISERD yma: https://forms.office.com/e/1jCYDz5a92

