Agor adeilad newydd Ysgol Treferthyr yng Nghricieth

Medi 2024 | Sylw

Mae adeilad newydd Ysgol Treferthyr yng Nghricieth yn barod i groesawu disgyblion am y tro cyntaf wrth i dymor yr Hydref ddechrau’r wythnos hon. Mae’r adeilad newydd eco-gyfeillgar yn agor yn dilyn buddsoddiad o £8.8 miliwn gan Gyngor Gwynedd ac yn cynnwys dosbarthiadau aml-bwrpas, neuadd bwrpasol ar gyfer gweithgareddau bydd ar gael at ddefnydd y gymuned ynghyd a chaeau chwarae a gofod ar gyfer chwaraeon amrywiol. Ariannwyd yr ysgol newydd ar y cyd gan Gyngor Gwynedd, Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Rhaglenni Cyfalaf Cynnig Gofal Plant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol, Llywodraeth Cymru.

Mae gan yr adeilad gyfleusterau ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant bydd yn caniatáu addysg a gofal plant cyn oed ysgol ynghyd a chlwb ar ôl ysgol i blant o oedran ysgol gynradd. Mae’r Ganolfan ABC sy’n rhannu safle gyda’r ysgol, yn darparu gofod asesu i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Treferthyr, Dylan Roberts:

‘Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn arw tuag at y cyfnod cyffrous nesaf wrth i ni symud i safle newydd Ysgol Treferthyr. Mae adnoddau gwych yma sydd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r disgyblion yn edrych ymlaen i ymgartrefu yn eu dosbarthiadau newydd sydd wedi eu henwi ar ôl afonydd lleol yn ardal Eifionydd.

Rydym fel ysgol yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at gael yr ysgol yn barod. Rydym yn hynod lwcus o gael adeilad mor arbennig ar gyfer ein hysgol. Edrychwn ymlaen i gael darparu addysg a chreu profiadau byth gofiadwy i blant Ysgol Treferthyr ar ein safle newydd.’

Dywedodd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:

‘Rydw i’n siŵr fod disgyblion Ysgol Treferthyr a’u teuluoedd yn edrych ymlaen yn fawr i gael ymgartrefu yn eu hysgol newydd. Roedd yr hen adeilad wedi dyddio a bellach ddim yn addas i bwrpas, felly dwi’n rhannu cyffro’r gymuned leol am yr holl adnoddau modern sydd yn yr ysgol newydd, a’r cyfleon addysgol gwych fydd ar gael i’r disgyblion.

Dwi’n ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio’n galed er mwyn cyrraedd y garreg filltir yma, a dymunaf y gorau i’r plant a’r holl staff yn eu hysgol newydd.’

Dywedodd Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd Cabinet Dros Addysg Llywodraeth Cymru:

‘Mae’n wych ein bod wedi gallu cefnogi’r ysgol newydd hon. Mae’r defnydd o dechnoleg werdd yn bwysig i mi oherwydd drwy adeiladu ysgolion cynaliadwy rydyn ni’n darparu ar gyfer y dyfodol.

O’u cyfuno ag addysgu a dysgu rhagorol, gallai’r cyfleusterau o’r radd flaenaf hyn helpu i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau bosibl. Rwy’n gobeithio y byddant yn helpu’r dysgwyr a’r gymuned ehangach i ffynnu.’

Mae modd cael cipolwg o’r ysgol newydd a’r adnoddau sydd ar gael mewn fideo arbennig drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This