Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bydd afancod Ewropeaidd yn derbyn statws Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i newidio afancod a’u cynefinoedd yn fwriadol. Bydd y newid yn golygu bydd y drefn yng Nghymru yn cyd-fynd a’r ddeddfwriaeth yn Lloegr a’r Alban ac yn cydnabod afancod fel rhywogaeth frodorol sydd angen ei gwarchod.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bydd y camau hyn yn dangos sut y gall afancod helpu i greu dulliau naturiol o atal llifogydd ac afonydd glanach ar draws Cymru. Mae adroddiadau gwyddonol yn dangos fod gan argaeau a grëir gan afancod y gallu i ddal gwaddodion a hidlo llygryddion amaethyddol sy’n cyrraedd afonydd a dyfrffyrdd gan leihau y lefelau nitrogen a ffosfforws gall amharu ar fywyd gwyllt yn y dwr. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad yn 2024 oedd yn datgan fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi afancod yn cael eu hailgyflwyno dan reolaeth yng Nghymru.
Mewn datganiad dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
“Mae ymestyn mesurau cyfreithiol i warchod afancod yn gam mawr ymlaen i fyd natur yng Nghymru. Rydym yn wynebu argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i helpu natur i ffynnu.
Wrth gymryd y cam hwn, rwy’n ymrwymedig i ddull cydweithredol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rwy’n falch o gadarnhau y byddwn yn sefydlu Fforwm Afancod Cymru i helpu i reoli rhai o’r pryderon a godwyd, gan gynnwys rhai sy’n ymwneud ag effeithiau posibl ar rywogaethau, defnydd tir a systemau dŵr.”
Dywedodd Mary Lewis, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):
“Ar un adeg roedd afancod yn rhan annatod o’n bywyd gwyllt brodorol, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio ecosystemau. Mae eu gweithgarwch mewn afonydd a gwlyptiroedd yn helpu i greu cynefinoedd cyfoethog, amrywiol sy’n cynnal ystod eang o rywogaethau. Maent hefyd yn darparu manteision amgylcheddol pwysig, megis gwella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd trwy arafu llif dŵr trwy systemau afonydd.
Gall ailgyflwyno afancod wneud ein hamgylchedd yn fwy gwydn ac yn iachach – rhywbeth sy’n fwyfwy pwysig wrth i ni wynebu pwysau cynyddol ar ein hadnoddau naturiol, ac mae rhoi mesurau cyfreithiol i warchod afancod ar waith yn gam pwysig ymlaen i wneud hyn yn llwyddiant. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i ddatblygu dull sy’n cefnogi’r gwaith o ailgyflwyno afancod i Gymru o dan reolaeth.”
Bydd Fforwm Afancod Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2025. Bydd dal gofyn i’r rheini sydd am ailgyflwyno afancod i ddyfrffyrdd Cymru gael trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud hynny.

