Adroddiad Sefydliad Bevan yn awgrymu defnyddio hen gapeli i greu cartrefi

February 2025 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Mae adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan yn awgrymu y gellid adnewyddu ac ail bwrpasu hen gapeli ac addoldai gwag er mwyn darparu cartrefi a chynyddu’r stoc dai sydd ar gael i bobl sydd yn byw mewn llety dros dro.

Yn ôl Sefydliad Bevan mae 1 ym mhob 215 o aelwyd yng Nghymru yn byw mewn llety dros dro. Yn aml mae’r llety hwn yn annigonol neu’n anaddas i anghenion y teuluoedd hyn ac fe all hyn gael effaith hir dymor ar iechyd a llesiant. Noda Sefydliad Bevan mae tarddiad y broblem yw fod yna brinder tai cymdeithasol a chymunedol a bod y ddarpariaeth o dai newydd sy’n cael eu hadeiladu yn araf.

Mae’r adroddiad yn edrych ar y rhwystrau sy’n bodoli wrth adeiladu tai newydd megis Cynlluniau Datblygu Lleol, perchnogion yn gwrthod rhyddhau eu tir i’w ddatblygu a chost uchel tir yn gyffredinol gan gynnig datrysiadau amgen i’w hystyried. Un modd o gynyddu’r stoc dai sydd ar gael ar gyfer dibenion darparu cartrefi cymdeithasol a chymunedol yw troi gofodau megis capeli ac eglwysi nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach a’u troi’n gartrefi. Noda’r adroddiad fod hyn nid yn unig yn cynnig budd i’r rheini sydd angen cartrefi ond ei fod hefyd yn atal yr adeiladau hyn rhag troi’n adfeilion a’r effeithiau negyddol cymdeithasol pellgyrhaeddol sy’n dod gyda dirywiad adeiladau o’r fath.

Cynhyrchwyd yr adroddiad ar y cyd gan Housing Justice Cymru a Cwmpas, ac fe noddwyd gan y Nationwide Foundation. Gallwch ddysgu mwy am yr adroddiad, a’i ddarllen yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Sefydliad Bevan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This