Adroddiad newydd yn crynhoi straeon prosiectau ARFOR

February 2026 | Sylw

Mae dogfen newydd sydd wedi’i gyhoeddi gan dîm arweiniol ARFOR yn dod ynghyd a nifer o straeon allweddol y prosiect, gan ddangos enghreifftiau o’r effaith cadarnhaol y mae’r gwahanol ffrydiau gwaith wedi cael ar unigolion, sefydliadau a busnesau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn. Oherwydd ehangder ac uchelgais y prosiect, mae yna ystod eang o straeon unigol sy’n derbyn sylw, o brosiectau ymchwil gan Brifysgolion Aberystwyth a Bangor, i raglenni hyfforddiant a chynyddu sgiliau, i gymorth o wahanol fath i fusnesau unigol ar draws y rhanbarth.

Ymhlith y prosiectau sy’n derbyn sylw mae’r Prosiect Mentergarwch Chwaraeon a Hamdden oedd yn cael ei arwain gan Mentrau Iaith Cymru fel rhan o ffrwd y Gronfa Her.

Nod y prosiect oedd ysgogi mentergarwch ymysg siaradwyr Cymraeg ym meysydd hamdden a chwaraeon drwy roi cyfle i bobl ifanc i gymhwyso fel hyfforddwyr yn eu meysydd hamdden ddewisol tra hefyd yn annog a galluogi clybiau chwaraeon a hamdden i gynnal sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd gan y prosiect bresenoldeb ar draws bob un o siroedd ARFOR ac fe welwyd cydweithio gydag adrannau chwaraeon y cynghorau ynghyd â chlybiau lleol er mwyn ysgogi unigolion i gymryd rhan ac i hwyluso hyfforddiant mewn amryw o gampau hamdden a chwaraeon.

Fel rhan o’r prosiect, cyflogwyd dau unigolyn i arwain ar y gwaith. Crëwyd cysylltiadau gyda phobl ifanc drwy’r ysgolion uwchradd, colegau lleol a thrwy glybiau chwaraeon er mwyn denu diddordeb mewn sicrhau hyfforddiant i gymhwyso fel hyfforddwyr cydnabyddedig. Bu cydweithio rhwng y swyddogion a Chwaraeon Cymru a’r cyrff rheoli campau unigol, ynghyd â chyrff sy’n darparu hyfforddiant chwaraeon. Heb yr ymyrraeth hon ni fyddai wedi bod yn bosib cynnal y sesiynau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, gan nad oedd galw digonol am sesiynau Cymraeg eu hiaith cyn dyfodiad y rhaglen.

Dengys y prosiect y modd y gwnaeth y Gronfa Her alluogi gwahanol sefydliadau i gydweithio er mwyn annog mentergarwch ymysg pobl ifanc ARFOR, a’u caniatáu i ddilyn hyfforddiant yn eu hiaith eu hunain. Fe wnaeth hyn sicrhau nid yn unig y gallu i geisio am gyfleoedd gwaith posib iddynt yn y dyfodol ond hefyd fe helpwyd i fagu hyder a dechrau newid diwylliant mewn rhai clybiau lle er efallai mai Cymraeg yw prif iaith y sesiynau, roedd hyfforddiant technegol drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei weld fel eilbeth i ddysgu sgiliau ‘ymarferol’ eraill.

Mae hon yn un enghraifft ymhlith nifer, o’r gwaith diddorol a phwysig a gyflawnwyd fel rhan o raglen ARFOR. I ddysgu mwy am brosiectau tebyg, gallwch ddarllen y ddogfen yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen isod.

ARFOR_Astudiaethau Achos_lr

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This