Adroddiad: Cynhadledd Gwerthuso, Monitro a Dysgu ARFOR

March 2025 | Arfor, Polisi gwledig, Sylw

Ar ddydd Llun 24 Mawrth fe gynhaliwyd cynhadledd ‘ARFOR: Cryfhau Dealltwriaeth ac Edrych Tuag At Y Dyfodol’ yng Nghanolfan Medrus, Prifysgol Aberystwyth. Trefnwyd y gynhadledd gan Wavehill gyda’u partneriaid ar ffrwd Gwerthuso, Monitro a Dysgu ARFOR, Prifysgol Aberystwyth a Sgema a wnaeth gydweithio i helpu i lunio’r agenda a chael trefniadau yn eu lle.

Roedd y gynhadledd yn cynnig cyfle i fynychwyr gael mynd i amryw o sesiynau, chyflwyniadau a sgyrsiau yn ystod y diwrnod. Ynghyd a sesiynau trafod a chyflwyniadau ar bynciau penodol, cafwyd rhagflas ar rhai o brif bwyntiau gwerthusiad terfynol Wavehill o raglen ARFOR bydd yn cael ei gyflwyno’n ffurfiol yn hwyrach eleni. Roedd y gynhadledd hefyd yn darparu cyfle gwych i rhanddeiliaid a’r rheini sydd wedi bod yn rhan o raglen ARFOR i ddod ynghyd i drafod y prosiect a’u hargraffiadau wrth i ail gymal y rhaglen ddirwyn i ben.

Mae’r adborth i’r diwrnod wedi bod yn dda ac fe roedd yr ymateb ar y diwrnod i’r gwahanol sesiynau yn gadarnhaol. Roedd y brwdfrydedd a’r angerdd amlwg oedd i’w glywed yng nghyfraniadau unigolion yn ystod y sesiynau trafod yn drawiadol, gan ddangos unwaith yn rhagor fod dyfodol y Gymraeg yn bwnc sy’n ysbrydoli meddwl dwys.

Llwyddwyd i greu’r amgylchiadau ar gyfer trafodaethau ystyrlon a diddorol oedd yn galluogi i fynychwyr rannu eu profiadau a’u mewnwelediadau gwerthfawr ynghylch y rhaglen, a’r heriau ehangach y mae ardaloedd gogledd a gorllewin Cymru yn eu hwynebu. Ymddengys fod yna awch gwirioneddol i fynd i’r afael a syniadau sydd yn trafod yr economi yn yr ardaloedd hyn yng nghyd-destun y Gymraeg a sut mae defnyddio cynlluniau buddsoddi er budd cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Cyfoethogwyd y drafodaeth gan yr ystod eang o unigolion oedd yn mynychu, gydag arbenigwyr o amrywiaeth helaeth o feysydd yn bresennol ac yn barod i rannu eu profiadau a’u syniadau er mwyn datrys rhai o’r heriau pennaf y mae ardaloedd ARFOR yn eu hwynebu.

Yn siarad ar ran Wavehill, dywedodd Lowri Cunnington-Wynn, arweinydd y diwrnod:

“Roedd y gynhadledd yn llwyddiant ysgubol – yn gyfle gwych i ddod â phobl at ei gilydd i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ein cymunedau, ein heconomi a’r Gymraeg. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd i wneud y diwrnod mor llwyddiannus. Mae’n glir bod cydweithio yn allweddol a bod parhau a rai o’r sgyrsiau hyn yn bwysig dros ben.”

Wrth drafod y gwerthusiad i’w gyhoeddi yn hwyrach yn 2025 dywedodd Ioan Teifi o Wavehill:

“Mae gan werthusiad ARFOR 2 rôl hollbwysig wrth helpu llywio sut dylid cefnogi prif amcanion y rhaglen i’r dyfodol. Wrth feddwl am yr her o golli siaradwyr Cymraeg ifanc o’r ardaloedd hyn, mae’r gwerthusiad yn cynnig cyfle i asesu pa wersi allwn gymryd o gyflwyno’r rhaglen a sut dylid taclo’r heriau yma wrth symud ymlaen.”

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This