Adroddiad Archwilio Cymru yn datgan bod angen gweithredu i sicrhau cynaladwyedd cyllidebau llywodraeth leol

Ionawr 2025 | Sylw

a city with many trees

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru (Audit Wales) ym mis Rhagfyr yn dadlau bod angen gweithredu er mwyn sicrhau fod cyllidebau llywodraethau lleol yng Nghymru yn gynaliadwy. Yn ôl Archwilio Cymru, mae yna risgiau sylweddol ariannol yn wynebau awdurdodau lleol a noda’r adroddiad bod y rhain yn debygol o gynyddu heb ymyrraeth i ddatrys y sefyllfa.

Cynhaliwyd yr ymchwil sy’n sail i’r adroddiad dros hanner cyntaf 2024. Edrychodd y gwaith ar bob un o’r awdurdodau lleol yng Nghymru gan ganolbwyntio ar:

  • Y strategaethau sydd yn eu lle i sicrhau cynaliadwyedd ariannol hir dymor.
  • Dealltwriaeth cynghorau o’u sefyllfa ariannol.
  • Trefniadau adrodd cynghorau er mwyn cefnogi’r gwaith arferol o oruchwylio eu cynaladwyedd ariannol.

Yn ôl Archwilio Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy yn ariannol a sicrhau’r gwasanaethau sy’n ofynnol yn statudol dros y tymor hir, mae angen i lawer o awdurdodau lleol drawsnewid eu dull o gyllidebu a chanolbwyntio ar werth am arian a chynaladwyedd yn y tymor canolig.

Mewn datganiad dywedodd Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol:

“Mae cynghorau wedi gwneud penderfyniadau anodd i reoli eu sefyllfa ariannol trwy gyfnod hir o gyfyngiadau ariannol. Ond wrth i effaith gronnus y cyfyngiadau hynny gynyddu ni allwn dybio y bydd llywodraeth leol yn parhau i fod yn ariannol gynaliadwy. Dengys ein gwaith ni, er eu bod yn gwybod beth yw maint y bylchau yn eu cyllid, nad oes gan gynghorau gynlluniau tymor hwy i fynd i’r afael â hwy. Mae hyn yn eu gadael dan fygythiad oherwydd penderfyniadau byrdymor nad ydynt o bosibl yn cynrychioli gwerth am arian nac er lles hirdymor cymunedau lleol. O’i fynegi’n syml, mae llywodraeth leol yn ariannol anghynaliadwy dros y tymor canolig oni chymerir camau gweithredu, gan y rhai sy’n cefnogi ac yn rhyngweithio â’r sector yn ogystal â chynghorau eu hunain. Er ei bod yn neges anodd, rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn helpu cynghorau, Llywodraeth Cymru a phawb sy’n ymrwymedig i’r sector, i osod llwybr at ddyfodol cynaliadwy.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Archwilio Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This