Nod Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru gan Dr Simon Brooks yn wreiddiol oedd paratoi adroddiad byr yn canolbwyntio ar y gymhariaeth rhwng atebion polisi cyhoeddus yn seiliedig ar bolisi trethiant (Cymru) a pholisi cynllunio (Cernyw). Fodd bynnag, oherwydd y diddordeb cynyddol yn y maes pwnc hwn, gofynnodd Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru a oedd modd ehangu’r ymchwil er mwyn craffu ar rai materion ehangach yn ymwneud ag ail gartrefi a chyflwyno argymhellion polisi.
Mae’r adroddiad yn adeiladu ar bapurau blaenorol yn y maes polisi hwn sy’n dyddio’n ôl i’r 1970au. Mae hefyd yn cwmpasu canfyddiadau’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyd-bwyllgor Cynllunio Gwynedd ac Ynys Môn, yng nghyswllt cartrefi gwyliau, gan gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar y mater hwn unwaith eto.
Mae hefyd yn nodi cyd-destun polisi’r ddadl ar ail gartrefi, gan dynnu sylw at y ffaith nad ffenomenon i Gymru gyfan yw ail gartrefi a materion cysylltiedig. Yn hytrach, mae’n awgrymu bod angen ymyriadau rhanbarthol neu leol.
Wedi’i gomisiynu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Academi Hywel Teifi, mae’r adroddiad yn nodi, ar hyn o bryd rydym mewn cyfnod digynsail yn sgil effeithiau dinistriol COVID-19 ac ansicrwydd effaith lawn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ein heconomi, yn ogystal â’r heriau niferus y mae ein cymunedau yn eu hwynebu.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddod o hyd i atebion system gyfan cytbwys ac ymarferol i sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau lleol, yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd a bywiogrwydd hirdymor cymunedau.
Ers y pandemig, rydym wedi gweld pryderon cynyddol am yr effeithiau y gall nifer fawr o ail gartrefi ei chael ar rai o’n cymunedau ac, yn benodol, ar gynaliadwyedd hirdymor ein cadarnleoedd Cymraeg.