Mae Storm Berffaith yn adroddiad 2025 gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) , corff cynghori annibynnol sy’n cynghori Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad yn archwilio os yw Cymru yn neud digon i gydlynu gweithredu ac i ymgysylltu a chymunedau wrth addasu seilwaith i hinsawdd sy’n newid. Mae’r adroddiad yn darparu dadansoddiad annibynnol ac argymhellion, gyda phwyslais cryf ar gynllunio’n seiliedig ar le a chynnwys cymunedau mewn addasu hinsawdd.
Pwyntiau allweddol
- Mae risgiau newid hinsawdd yn hynod benodol i lefydd gwahanol, gyda chymunedau gwahanol yn wynebu heriau gwahanol megis llifogydd, straen gwres, sychder ac erydu arfordirol, sy’n gofyn ymatebion wedi’u teilwra i amodau lleol.
- Mae ymgysylltu cymunedol yn anghyson, yn aml yn digwydd yn hwyr neu ar sail prosiectau unigol, gan gyfrannu at flinder ymgynghori a methiant i gaffael mewnwelediadau lleol.
- Mae ymdrechion addasu yn doredig, gyda chyrff cyhoeddus a darparwyr isadeiledd yn cynllunio ar wahân gan ddefnyddio data a rhagdybiaethau gwahanol.
- Mae addasu effeithiol yn dibynnu ar bobl ynghyd ac asedau, gyda’r adroddiad yn pwysleisio y gall cynnwys cymunedau’n gynnar wella ymddiriedaeth a gwytnwch hir dymor, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.
Pam fod hyn o bwys i ddulliau’n seiliedig ar le
Mae canfyddiadau NICW yn atgyfnerthu’r ffaith na all addasu hinsawdd gael ei ddarparu drwy ddatrysiadau technegol neu seilwaith yn unig.
Mae’n gofyn dulliau’n seiliedig ar le wedi eu cydlynu, sy’n dod a chyrff cyhoeddus, darparwyr isadeiledd a chymunedau ynghyd drwy ddealltwriaeth gyffredin o risgiau a blaenoriaethau lleol. Mae’r adroddiad yn gosod cynnwys cymunedau mewn modd ystyrlon wrth galon adeiladu gwytnwch, yn hytrach na’n atodiad dewisol.
Darllenwch yr adroddiad llawn:
Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (2025)

