Academyddion o Brifysgol Bangor yn lansio pecyn i gynorthwyo cyflogwyr sydd am recriwtio siaradwyr Cymraeg

Rhagfyr 2024 | Arfor

Mae tîm o academyddion o Brifysgol Bangor wedi lansio ‘Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog’ wedi iddynt dderbyn nawdd o gynllun Cronfa Her ARFOR. Nod y pecyn yw cynorthwyo cyflogwyr sydd eisiau recriwtio siaradwyr Cymraeg i’w gweithlu allu wneud hynny gan ddarparu cyngor a chanllawiau iddynt.

Mewn cynhadledd arbennig ddydd Gwener diwethaf (29 Tachwedd 2024) i lansio’r pecyn, daeth dros gant o bobl ynghyd i glywed am waith y tîm a’u hamcanion ar gyfer y gwaith gorffenedig. Mae’r pecyn yn cynnwys cyngor ymarferol i sefydliadau ynghyd a ‘Teipoleg o Benderfyniadau Ymfudo Siaradwyr Cymraeg’ yn seiliedig ar waith ymchwil Elen Bonner sy’n aelod o’r tîm. Gallwch ddysgu mwy am waith Elen a sut y mae’r Gymraeg yn effeithio ar benderfyniadau mudo drwy ddarllen ei blog gwadd i Arsyllfa.

Yn ystod y diwrnod cafwyd cyfres o gyflwyniadau a thrafodaethau gan gyflogwyr a phobl ifanc wrth iddynt rannu eu profiadau o’r Gymraeg yn y byd gwaith. Cafwyd cyflwyniadau hefyd gan arbenigwyr cynllunio iaith o Wlad y Basg a Chymru yn trafod eu gwaith ar sut i greu gweithleoedd cynhwysol ac amlieithog.

Mae modd darllen y pecyn a dysgu mwy am Gymraeg yn y gweithle drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This