A yw arloesi digidol – term disgrifiadol am ddeallusrwydd artiffisial, y rhyngrwyd pethau, defnyddio data mawr – yn fygythiad neu’n gyfle i ardaloedd gwledig? Wel, yr ateb byr yw, ‘mae’n fygythiad ac yn gyfle’.
Y risg amlycaf yw y gallai arloesi digidol – sy’n golygu i bob pwrpas peiriannau sy’n defnyddio cyfrifiaduron i gyflawni swyddogaethau gwybyddol fel bodau dynol – wneud llawer o bobl yn ddi-waith. A dweud y gwir, daeth ymchwil gan Brifysgol Caerdydd i’r casgliad y gallai gorllewin Cymru fod yn ‘gymharol fwy agored i niwed i awtomeiddio deallusrwydd artiffisial’.
Ond gall arloesedd digidol hefyd fod yn drawsnewidiol, a chyfeiriodd adroddiad ymchwil gwahanol gan Brifysgol Caerdydd at ‘dirwedd economaidd ystwyth’ ardaloedd gwledig, gan nodi efallai y byddai’n fwy cymwys i ddelio â heriau awtomeiddio.
Daeth cynllun peilot a gynhaliwyd gan Arloesi Gwynedd Wledig a oedd yn edrych ar sut y gellid defnyddio’r rhyngrwyd pethau mewn ardaloedd gwledig o hyd i ddigon o bethau i fod yn optimistaidd yn eu cylch. Gallai’r cysylltiad o ‘bethau’ â’r rhyngrwyd – boed hynny’n fuwch, giât y fferm neu’r oergell – gael ei ddefnyddio mewn llawer o ffyrdd cadarnhaol, o wella gofal i bobl hyn a phobl ddiamddiffyn o bell, i gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd amaethyddol.
Mae Agxio, cwmni technoleg amaeth yn Aberystwyth, wedi datblygu nifer o gynhyrchion sy’n cymhwyso dysgu peiriannau awtomataidd uwch i ddod â gwyddoniaeth a thechnoleg ar flaen y gad ym maes amaethyddiaeth. Mae’r dechnoleg yn galluogi gwelliannau o ran cynnyrch, mapio meysydd amser real, dewis cnydau, monitro iechyd da byw, monitro clefydau rhagfynegol, metrigau cynaliadwyedd, dadansoddi drôn, a bio-olrhain.
Mae posibiliadau diddiwedd hefyd o ddefnyddio arloesedd digidol i ddatrys problemau gwledig. Mae arloesi digidol yn paratoi’r ffordd ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus a gofal iechyd o bell, boed hynny’n synwyryddion yn y cartref i gadw pobl sy’n agored i niwed a phobl hŷn yn ddiogel, cael gofal iechyd o bell neu ddysgu ar-lein. Mantais arall yw bod pobl fedrus, sy’n aml yn cael eu gorfodi i adael ardaloedd gwledig i weithio, yn gallu defnyddio mwy o lwyfannau bellach i redeg eu busnesau a gweithio o gartref.
Er na allwn ragfynegi gwir effaith arloesedd digidol ar Gymru wledig yn gywir, mae un peth yn sicr: ni allwn wrthsefyll y newidiadau, byddant yn drawsnewidiol, a drwy fod yn optimistaidd, gallwn eu croesawu er lles ein busnesau, ein heconomi, ar gyfer ein gofal iechyd a’n gwasanaethau cyhoeddus.
Ffynonellau:
Datblygu technoleg CAMPUS (‘y rhyngrwyd pethau’) mewn ardaloedd gwledig ac ar eu cyfer – Y cysyniad yw creu ‘adnodd profi’ / labordy i annog cyflwyno a datblygu’r ‘rhyngrwyd pethau’ yng nghyd-destun amaethyddiaeth/ardaloedd gwledig. Rhan o Arloesi Gwynedd Wledig.
Cwmni technoleg amaeth Agxio – Wedi sicrhau £750,000 mewn cylch buddsoddi i gefnogi ei waith o ddatblygu atebion gwyddor data a deallusrwydd artiffisial ar draws y DU ym mis Mehefin 2020.
Cymru yn yr Economi Ddigidol: Tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ar bwysigrwydd lle – Prifysgol Caerdydd – Mae’r erthygl yn nodi “Yn un peth, mae nifer o alwedigaethau sy’n debygol o gael eu heffeithio’n ganolog gan ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio yn rhai trefol yn bennaf – gwaith coler wen sgiliau isel a chanolig – tra mae gan ardaloedd gwledig fel arfer fwy o gwmnïau y pen, ac efallai felly tirwedd economaidd fwy ‘ystwyth’.”
Deallusrwydd Artiffisial ac awtomeiddio: Archwilio’r goblygiadau i fusnes a chyflogaeth yng Nghymru yn y dyfodol – Prifysgol Caerdydd – Ymchwil gan Uned Economi Cymru ac yn canolbwyntio ar y cyfle y gall Deallusrwydd Artiffisial ac awtomeiddio ei gynnig i fusnesau llai. Mae busnesau bach a chanolig yn allweddol i gefn gwlad Cymru. · “Mae tystiolaeth o Fynegai Gwendid WERU yn awgrymu bod Dwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn fwy agored i niwed yn sgil awtomeiddio deallusrwydd artiffisial na rhannau eraill o’r DU.”
Rôl Deallusrwydd Artiffisial mewn Ardal Wledig – Prifysgol de Alcala – Mae erthygl yn nodi y gall Deallusrwydd Artiffisial gyfrannu at ddatblygiadau ym myd amaeth drwy helpu i wneud penderfyniadau sy’n fwy effeithlon a gweithredu gwahanol offer sy’n gwella’r gwaith o ladd chwyn neu gynaeafu cnydau gwell.