Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fersiwn gyntaf o ddangosfwrdd digidol i alluogi olrhain a mesur cynnydd yn erbyn eu prif flaenoriaethau, gan gynnwys:
- Lleihau rhestrau aros y GIG
- Mynd i’r afael a thlodi plant
- Helpu teuluoedd a gofal plant
- Codi safonau yn ein hysgolion
- Datgloi economi Cymru
- Sefyll dros Gymru
Mae’r dangosfwrdd digidol yn caniatáu i ymwelwyr:
- Gweld y data diweddaraf sy’n dangos cynnydd
- Deall sut y mae’r data yn ymwneud â’r flaenoriaeth
- Darganfod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau
Bydd y wybodaeth yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Mae’n bosibl y bydd rhai mesurau, diffiniadau a’r ffyrdd o’u cyflwyno yn newid wrth i’r gwaith fynd rhagddo ac wrth i wybodaeth newydd ddod i law.
Mynediad i’r dangosfwrdd digidol YMA.

