Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar gyfer cyfraith newydd nodedig i warantu bod anghenion cymunedau gwledig yng Nghymru yn cael eu hystyried a’u cyfrif mewn penderfyniadau a wneir gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Nod y cynigion yw mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cefn gwlad Cymru, ble mae tua thraean o’r boblogaeth yn byw.  Yma, mae pobl yn aml yn wynebu costau uwch, incwm is, cysylltiadau trafnidiaeth gwaeth, rhyngrwyd tameidiog a mynediad anghyfartal at wasanaethau, gan gynnwys ym maes iechyd ac addysg.

Bwriad y mesurau yw gwella mynediad at wasanaethau gan sicrhau bod cymunedau gwledig yn cael eu hystyried wrth galon unrhyw benderfyniadau.

MMae’r newidiadau yn rhan o ymgynghoriad ehangach ar fesurau a fydd hefyd yn cryfhau diogelu’r amgylchedd, yn hyrwyddo defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol, ac yn cefnogi’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur sy’n datblygu.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 14 Hydref 2026.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This