Mae partneriaeth a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn dros £5 miliwn o gyllid i ymchwilio ac archwilio atebion i heriau gwledig.
Mae ‘Cymru Wledig LPIP Rural Wales’ yn cysylltu ymchwilwyr, cymunedau, a llunwyr polisi i gefnogi datblygiad cynhwysol, cynaliadwy.
Bydd ymchwilwyr a llunwyr polisi yn gweithio gyda chymunedau o bob rhan o Gymru wledig i archwilio atebion arloesol i amrywiaeth o heriau mawr a wynebir gan gymunedau gwledig, fel materion fel y “premiwm gwledig” ar dlodi.
Wedi’i hariannu gan UKRI, nod y bartneriaeth ymchwil yw llenwi bylchau tystiolaeth, archwilio atebion arloesol, a gwella’r defnydd o ymchwil i gefnogi polisïau effeithiol i feithrin ‘economi lles’.
Bydd yn canolbwyntio ar yr heriau o adeiladu economi adfywiol, cefnogi’r cyfnod pontio sero net, gwella iechyd, llesiant a mynediad at wasanaethau, a grymuso cymunedau a diwylliant, gan gynnwys adfywio’r Gymraeg.
Dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig, yr Athro Michael Woods:
“Mae Cymru wledig yn wynebu heriau sylweddol wrth dyfu ei heconomi, darparu swyddi a thai da i bobl leol, a chynnal gwasanaethau i sicrhau lles cymunedau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddod ag arbenigedd o brifysgolion, busnesau, y sector cyhoeddus a chymunedau ynghyd i weithio tuag at ddyfodol cynhwysol, cynaliadwy i’r rhanbarth.”
Bydd y rhaglen waith tair blynedd yn cynnwys amrywiaeth o bobl mewn labordai arloesi i ddatblygu a phrofi ymyriadau, prosiectau ymchwil a arweinir gan y gymuned sy’n canolbwyntio ar bryderon lleol, a deialogau i drafod materion hollbwysig fel defnydd tir a sero net. Bydd hefyd yn casglu data newydd trwy arolygon ac astudiaethau byr, a chreu Canolfan Tystiolaeth Integredig Ar-lein ar gyfer Cymru wledig.
Ychwanegodd yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae cymunedau gwledig a’u dyfodol yn naturiol yn agos iawn at galonnau pawb yma yn Aberystwyth, a bydd y prosiect pwysig hwn yn ein helpu i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu’r ardaloedd hyn. Mae arweinyddiaeth yr Athro Wood o’r bartneriaeth ymchwil newydd hon yn tanlinellu unwaith eto pa mor ffodus ydym ni i gael arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd yn gweithio yma. Mae arbenigedd o’r radd flaenaf yn amlwg o werth mawr i’n myfyrwyr, ond mae hefyd yn gwneud cyfraniad hanfodol i gymdeithas yn gyffredinol yn lleol ac yn rhyngwladol.”
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Swydd Gaerloyw, ynghyd â phartneriaid yn cynnwys Antur Cymru, Y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Datblygiadau Egni Gwledig, Represent Us Rural, Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, Gyda’n Gilydd dros Newid, a’r partner diwydiant Sgema. Fe’i lluniwyd o dan fframwaith Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD).
Dywedodd yr Athro Alison Park, Pennaeth thema creu cyfleoedd, gwella canlyniadau UKRI:
“Mae Partneriaethau Polisi ac Arloesi Lleol yn dangos ymrwymiad UKRI i ddod ag ystod amrywiol o bartneriaid ynghyd, o lywodraeth leol a datganoledig, cymunedau a busnesau. Drwy’r cydweithrediadau hirdymor hyn, byddwn yn cyflymu’r defnydd o ymchwil ac arloesi i leihau anghydraddoldebau rhanbarthol a sbarduno twf cynaliadwy, cynhwysol.”
Mae Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig yn un o bedair Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol a ariennir gan yr ESRC, gydag eraill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cefnogir y gwaith ymchwil gan gyllid Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) fel rhan o’i waith i greu cyfleoedd a gwella canlyniadau yn lleol.
Dysgwch mwy fama: Cymru Wledig LPIP Rural Wales