Fel rhan o brosiect Marchnad Lafur Cymraeg rydym yn edrych ar ddatblygu clwstwr yn ymwneud â chynllun rhwydwaith Arfror. Cysyniad yw Arfor o greu awdurdod rhanbarthol yn siroedd Gogledd Orllewin a Gorllewin Cymru sef Sir Fôn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin sy’n draddodiadol wedi cael eu gweld fel cadarnleoedd i’r Gymraeg. Bwriad y cysyniad yw medru arwain ar bolisïau penodol sy’n creu amodau ffafriol i’r Gymraeg a chymunedau’r ardal. Caiff Arfor ei weld fel ateb posib i dwf economi a ffordd o atal allfudo, ymysg y to iau, allan o’r ardaloedd trwy edrych ar ddatblygu swyddi o ansawdd a chreu amodau sy’n denu nhw i fyw yn yr ardaloedd hynny.
O ddyddiau cynnar y prosiect Marchnad Lafur Cymraeg rydym wedi gweld bod potensial i gyd-weithio gyda chynllun Arfor oherwydd ei fod yn gweithio tuag at yr un nod. Rhan gychwynnol o’r clwstwr oedd cyflawni gwaith ymchwil ar economi’r bedair sir a’r heriau cyffredin mae’r ardaloedd yn eu hwynebu. Rydym wedi datblygu sawl syniad o fewn sectorau gwahanol fydd yn medru ychwanegu gwerth i economi a busnesau sydd wedi’u lleoli o fewn Arfor a’r cyffiniau agos. Rydym hefyd wedi cynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr o siroedd Arfor a’r Llywodraeth er mwyn sicrhau nad oes dyblygu yn digwydd a’n bod yn ychwanegu at amcan y clwstwr.
Dros y misoedd nesaf byddwn yn penderfynu ar ba drywydd penodol y clwstwr. Y gobaith yw ygall ein gwaith gydag Arfor brofi potensial y cysyniad fel modd o ddatblygu’r iaith a’r economi o fewn yr ardaloedd hynny.