Mae Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Parc Cenedlaethol Eryri wedi pleidleisio i weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ardal y Parc, fel modd o reoli’r cyflenwad tai yn yr ardal. Mae’r bleidlais yn golygu y bydd rhaid i’r rheini sydd am ddefnyddio tai fel llety preswyl byr dymor neu ail gartref dderbyn caniatâd cynllunio.
Mae’r cam yn dilyn y penderfyniad gan Gyngor Gwynedd y llynedd (2024) i gyflwyno’r polisi, yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hynny yn dilyn newidiadau i’r ddeddfwriaeth cynllunio gan Lywodraeth Cymru.
Cyflwynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hysbysiad swyddogol o fwriad i weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 ym mis Ebrill 2024. Dilynwyd hyn gan gyfnod o chwe mis o ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynllun. Wedi’r cyfnod hwn fe wnaeth Swyddogion Polisi Cynllunio’r Parc ystyried y sylwadau ac ymchwilio’r pryderon a fynegwyd. Penderfynodd y Swyddogion nad oedd na unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd iddynt a fyddai’n cyfiawnhau gwrthdroi’r bwriad i weithredu’r polisi ac felly pleidleisiodd aelodau’r Pwyllgor Cynllunio’r Parc o blaid y cynnig. Bydd y newidiadau yn dod i rym ar 1 Mehefin 2025.
Mewn datganiad dywdodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol yma yn Eryri, wrth i ni gymryd cam pwysig i sicrhau dyfodol llewyrchus i’n cymunedau.
Mae ymchwil wedi dangos bod cyfran sylweddol o bobl wedi eu prisio allan o’r farchnad dai mewn ardaloedd sydd â chyfran uchel o ail gartrefi neu lletyai gwyliau tymor byr. Trwy weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4, gallwn ddechrau rheoli’r niferoedd o dai preswyl a ddefnyddir at y dibenion hyn yn ein cymunedau, gan roi cyfle i bobl leol i ymgartrefu yn eu cymuned. Bydd hyn yn diogelu cymunedau byw sy’n meithrin y genhedlaeth nesaf ac yn cynnal yr economi wledig gydol y flwyddyn”.
Nid yw Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ôl-weithredol, ac felly ni fydd yn cael effaith ar dai sy’n barod yn cael eu defnyddio fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr neu’n cael eu troi at y defnydd hwnnw cyn 1 Mehefin 2025.