Mae Pwyllgor Cynllunio Gwynedd wedi rhoi caniatâd i Gyngor Gwynedd adeiladu naw tŷ newydd ym Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn er mwyn ateb y galw cynyddol gan bobl leol am dai yn yr ardal. Mae’r datblygiad yn rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, sydd yn gweithio tuag at wireddu’r targed o adeiladu 90 o dai fforddiadwy i bobl leol gael prynu neu rentu.
Mae gan y cynllun bwyslais penodol ar sicrhau fod y cartrefi sy’n cael eu hadeiladu nid yn unig yn fforddiadwy ond hefyd yn addasadwy, cynaliadwy ac yn ynni-effeithlon. Bydd y safle newydd ym Morfa Nefyn yn cynnwys pedwar cartref dwy ystafell wely a phum cartref tair ystafell wely gyda rhai wedi eu dylunio yn arbennig er mwyn gallu eu hehangu yn y dyfodol.
Mae Tŷ Gwynedd yn un rhan o Gynllun Gweithredu Tai’r cyngor sydd a’r bwriad i ddarparu dros 1,000 o dai fforddiadwy dros y blynyddoedd nesaf. Bydd modd i bobl leol ymgeisio am y cartrefi newydd ym Morfa Nefyn drwy Tai Teg, sy’n gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Gwynedd.
Mewn datganiad dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Paul Rowlinson:
“Dw i’n eithriadol o falch gweld bod y prosiect yma’n symud yn ei flaen a’n bod gam yn nes at weld cartrefi newydd, safonol, fforddiadwy ar y safle yma. Mae dros 80% o drigolion Morfa Nefyn wedi eu prisio allan o’r farchnad dai — cyfran sylweddol sy’n methu prynu cartref yn eu cymuned eu hunain. Mae hyn yn anghyfiawn ac yn amlygu’r angen enfawr am gartrefi fforddiadwy yn yr ardal.”
“Un o egwyddorion allweddol cynllun Tŷ Gwynedd ydi ein bod yn adeiladu cartrefi gydag anghenion darpar drigolion yn ganolog iddynt. Bydd modd eu haddasu ar gyfer teuluoedd sy’n tyfu trwy gynyddu nifer y llofftydd. Bydd y cartrefi yn fforddiadwy i bobl leol ac yn ynni-effeithlon, ac felly yn glyd ac yn rhatach i’w cynhesu — nodweddion sy’n hanfodol i gymuned fel Morfa Nefyn.”
“Dw i’n edrych ymlaen at weld y safle’n datblygu, a’r effaith gadarnhaol a ddaw yn sgil hyn ar y gymuned ehangach. Dw i’n annog unrhyw un sydd efo diddordeb mewn ymgeisio am un o’r tai i wirio’r meini prawf a chofrestru rŵan trwy Tai Teg.”
Dywedodd Aelod Lleol ward Morfa Nefyn a Thudweiliog ac Aelod Cyngor Tref Nefyn, y Cynghorydd Gareth Tudor Jones:
“Mae angen dybryd am fwy o dai fforddiadwy yn Llŷn, a dw i’n croesawu’r newyddion bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad yma. Mae Cyngor Tref Nefyn yr un mor falch o weld y prosiect yn symud ymlaen i’r cam nesaf.
“Dyma leoliad delfrydol i adeiladu cartrefi newydd – yn enwedig i deuluoedd ifanc ac unigolion sydd wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Mae’r safle mewn lleoliad hynod o gyfleus dros ffordd i faes chwarae penigamp ac o fewn pellter cerdded i Ysgol Morfa Nefyn.
“Yn bwysicaf oll, bydd y prosiect yma’n golygu bod mwy o bobl leol yn cael aros yn eu milltir sgwâr, yn hytrach na gorfod symud i ffwrdd i ddod o hyd i gartref fforddiadwy. Mae’n gam ymlaen i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein cymunedau gwledig Cymreig.”
Mae modd cael mwy o wybodaeth am Tŷ Gwynedd yma. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am Tai Teg a gweld os ydych yn gymwys ar gyfer y rhaglen drwy ddilyn y ddolen hon.