Cyngor Sir Caerfyrddin yn gosod targed gorchudd coed a choetir o 17% erbyn 2050

Rhagfyr 2024 | Sylw

Mae Cyngor Caerfyrddin wedi cyhoeddi eu bod yn ymrwymo i gynyddu gorchudd coed a choetir ar dir y Cyngor i 17% erbyn 2050. Daw’r cyhoeddiad fel rhan o Strategaeth Coed a Choetir 2024-2029 newydd y Cyngor. Mae’r targed sydd a’r nod o wella bioamrywiaeth a lliniaru effeithiau gwaethaf newid hinsawdd yn dilyn argymhellion amryw o sefydliadau amgylcheddol megis Panel Newid Hinsawdd y DU.

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sawl elfen wahanol, gan gynnwys y rôl y mae coed yn chwarae mewn lleihau allyriadau carbon a sut y maent yn gweithredu fel amddiffynfeydd rhag llifogydd drwy gadw, rhwystro ac arafu llif dŵr. Trafodir hefyd y modd y mae angen integreiddio’r gwaith o blannu coed gyda mentrau Seilwaith Gwyrdd a Glas y Cyngor yn unol â gofynion deddfwriaethol.

Mae amryw o gynlluniau plannu coed eisoes ar y gweill yn y sir, gyda choetiroedd cymunedol a blannwyd yn ddiweddar yn Ffairfach a Llandybïe yn enghreifftiau o’r gwaith sydd wedi ei wneud yn barod. Mae yna gynlluniau pellach i blannu ym Mynea a Llanarthne dros y gaeaf ynghyd ac ymdrechion i wella coetiroedd parod ar y gweill hefyd. Yn ogystal â’r cynlluniau hyn, bwriad y Cyngor yw plannu 9.5 hectar neu fwy yn ychwanegol o goetir newydd bob blwyddyn. Bydd Grŵp Cyflawni yn monitro cynnydd y strategaeth i sicrhau fod yr holl dargedau’n cael eu cyrraedd a bod y plannu yn cyd-fynd a chynlluniau ehangach y Cyngor.

Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

‘Mae ein hymrwymiad i gynyddu gorchudd coed a rheoli ein coetiroedd yn gynaliadwy yn ymateb uniongyrchol i’r argyfyngau hinsawdd a natur sy’n ein hwynebu. Trwy gydweithio â chymunedau a rhanddeiliaid lleol, gallwn adeiladu Sir Gaerfyrddin sy’n fwy gwyrdd a gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’

I gael mwy o wybodaeth am waith amgylcheddol Cyngor Sir Caerfyrddin, dilynwch y ddolen hon i’w tudalen bioamrywiaeth.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This