Mae trefnwyr Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2024 wedi cyhoeddi’r amserlen lawn ar gyfer y digwyddiad. Thema’r gynhadledd eleni yw ‘Mwy o Fwyd – Mwy o Ffermwyr – Mwy o Natur – Mwy o Wytnwch’.
Ymhlith y siaradwyr yn y gynhadledd bydd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru bydd yn agor y digwyddiad a Denise Bentley, cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr ‘First Love Foundation’. Bydd y gynhadledd yn cynnwys ymweliadau a lleoliadau a phrosiectau arbennig yn yr ardal leol. I ganfod rhagor o wybodaeth am y tripiau hyn, dilynwch y ddolen hon.
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal rhwng yr 20 a 22 o Dachwedd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn Llambed. I weld yr amserlen lawn, am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, dilynwch y ddolen hon: https://wrffc.wales/cynhadledd-2024-conference/