Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (FSB Cymru) wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n amlinellu eu hargymhellion ynghylch dyfodol busnesau bach sy’n weithredol ym maes y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Yn ôl FSB Cymru, mae’r diwydiannau creadigol ar dwf ac yn faes sydd â photensial i wneud cyfraniad mawr i economi Cymru. Yn 2022 cynhyrchodd y sector £3.8 biliwn o drosiant, gwerth oddeutu 5.3% o’r cynnyrch domestig gros (GDP) yma.
Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Awdurdodau Lleol eu hystyried er mwyn hysgogi twf yn y diwydiant. Mae’r argymhellion hyn wedi eu rhannu i bum prif faes:
- Parch cydradd: Mae’r adroddiad yn dadlau y dylai gwneuthurwyr polisi sicrhau fod ymyraethau polisi yn cydnabod y ffaith fod y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn sector dwf allweddol er mwyn sicrhau fod yna dwf mewn buddsoddiad ac er mwyn datblygu gweithlu sydd a’r sgiliau angenrheidiol.
- Mynediad at gyllid: Nodir y dylid ceisio rhoi hwb i hyder buddsoddwyr drwy sicrhau cyllid a benthyciadau i bartneriaid yn y sector yn yr hir dymor.
- Cysylltu busnesau: Mae’r adroddiad yn amlinellu’r angen i greu rhwydweithiau traws diwydiannol drwy gefnogaeth Cymru Greadigol a thrwy feithrin microglystyrau.
- Fframweithiau cyffredin: Noda’r adroddiad y dylai cyfleoedd caffael, tendro a chontractio fod ar gael i fusnesau bach a chanolig, nid ond busnesau mwy.
- Brand Cymru: dylid defnyddio busnesau bach a chanolig yn y diwydiannau creadigol i greu brand ‘Cymreig’ trawiadol a chryf.
I weld holl argymhellion FSB Cymru ac i ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, dilynwch y ddolen hon.